Cynhadledd Rithwir National Association of Writers in Education: Adnewyddu a Gwydnwch: Ysgrifennu Creadigol mewn Addysg a Chymunedau yn 2022 a Thu Hwnt

Mae’r rhaglen lawn ar gyfer ail gynhadledd rithwir NAWE bellach ar-lein! Archwiliwch y thema ‘Adnewyddu a Gwydnwch’ gyda rhai o’r enwau mwyaf cyffrous ym myd addysg ysgrifennu creadigol heddiw, gan gynnwys ein siaradwyr gwadd, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Costa, Hannah Lowe a Thomas Glave. Gyda 50+ o weithdai, paneli, darlleniadau a sgyrsiau, mae’n gyfle gwych i ddod ynghyd â chyd-awduron sy’n addysgu ysgrifennu creadigol ym mhob lleoliad ar draws y DU ac yn rhyngwladol am dri diwrnod o greadigrwydd, cyfnewid gwybodaeth, a rhwydweithio. Mae digwyddiadau arbennig yn cynnwys: Panel Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau’r DU yn trafod cyflwr y sector a sut mae’n addasu i’r sector ynghyd â sesiynau ynghylch Gwneud digwyddiadau llenyddiaeth yn hygyrch, Gwybod eich hawliau, a Dechrau arni mewn cyhoeddi cylchgronau, gweithdy Ariannu i Awduron a Chodi Arian 1- i-1, a llawer mwy. Agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau. Ac mae popeth yn cael ei gofnodi! Mae tocynnau ar gyfer cynrychiolwyr yn dechrau am £59 yn unig.