Hanner tymor: Dydd Llun 21 Chwefror i ddydd Iau 24 Chwefror 11am i 12.30pm

Ydy’ch plentyn yn poeni am newid hinsawdd? Rydym yn cynnal cwrs AM DDIM ar sut i ysgrifennu straeon pwerus a pherswadiol ar y thema newid hinsawdd fel rhan o’n gweithgareddau Gaeaf o Les ar gyfer pobl ifanc. Dan arweiniad yr awdur Charlie Lea, bydd ysgrifenwyr ifanc yn cael eu harwain ar sut i ysgrifennu straeon anhygoel ar yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn ceisio achub ein planed. Bydd y straeon hyn wedyn yn cael eu huwchlwytho i’n platfform e-lyfrau a bydd cyfle i ddarllen straeon mewn digwyddiad  arbennig.

Cynhelir cyrsiau trwy Zoom

Bydd gwaith y cyfranogwyr yn cael ei arddangos mewn digwyddiad arbennig ac yn cael ei rannu ar ein platfform e-lyfrau

I gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau e-bostiwch charles@readnowwritenow.org.uk