
Categori /
Lansiad Llyfr
Vinegar Hill gan Colm Toibin: Lansiad Llyfr Carcanet
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Vinegar Hill, y casgliad cyntaf o farddoniaeth gan yr awdur o fri Colm Tóibín, derbynnydd Gwobr Lenyddiaeth David Cohen 2021. Yn cynnal y darlleniad bydd y bardd a’r cyhoeddwr John McAuliffe, yn ymuno â Colm i drafod y llyfr newydd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau a thrafodaeth, a bydd aelodau’r gynulleidfa yn cael cyfle i ofyn eu cwestiynau eu hunain. Byddwn yn dangos y testun yn ystod darlleniadau er mwyn i chi allu darllen ymlaen.
Bydd cofrestru ar gyfer y digwyddiad arlein hwn yn costio £2, y gellir ei adbrynu yn ddiweddarach yn erbyn cost y llyfr. Bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn y cod disgownt a gwybodaeth am sut i brynu’r llyfr yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.