Mae Cynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru eleni’n dwyn ynghyd leisiau amlwg gan gynnwys awduron a darlunwyr llyfrau plant, sefydliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal â ffigurau pwysig eraill sy’n gweithio ym maes llyfrau plant. Bydd yn archwilio pam fod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol o ran darllen er pleser a beth allwn ni ei wneud yn y Blynyddoedd Cynnar i roi cyfle i blant ifanc deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a’u grymuso.

Gwyddom fod dysgu am y byd, eich hunaniaeth a’r bobl o’ch cwmpas yn dechrau yn y Blynyddoedd Cynnar, a bod llyfrau straeon a rhigymau’n offer grymus y gellir eu defnyddio i helpu plant i ddeall eu profiadau byw. Pan fyddwn ni’n siarad am amrywiaeth, rydyn ni’n hyrwyddo’r angen i fod yn gynhwysol ymhob maes, er mwyn i bob plentyn a theulu deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a’u gwerthfawrogi.

Gellir gwneud mwy i sicrhau fod pob plentyn yn gallu gweld ei hun yn y llyfrau y bydd yn cael mynediad iddynt o oedran ifanc, a hefyd i ddarparu mynediad i lyfrau i bob plentyn er mwyn iddynt allu profid grym trawsnewidiol darllen er pleser.

Bydd y gynhadledd yn digwydd fel cyfres o weminarau ar lein dros 4 diwrnod. Bydd y gweminarau hyn ar ffurf trafodaeth banel, 2 weithdy a 4 sesiwn rhannu ymarfer, gyda chyfraniadau a mewnwelediad oddi wrth:

• Dapo Adeola, Awdur a Darlunydd Plant ac Awdur Preswyl mwyaf diweddar BookTrust

• Connor Allen, Children’s Laureate Cymru 2021 – 2023

• Jo Bowers, Arbenigwr Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar

• Margaret Holt, Cydlynydd Dechrau Da, Llyfrgelloedd Caerdydd

• Natalie Jerome, Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru

• Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg

• Ruth Morgan, Ymarferydd Cynradd Arobryn ac Awdur Plant

• Lucy Owen, Cyflwynydd ac Awdur

• Cymraeg i Blant, Rhaglen sy’n cefnogi teuluoedd â phlant ifanc i ddod â’r Gymraeg i mewn i’w cartrefi

• Cyngor Llyfrau Cymru, Elusen Genedlaethol sy’n Cefnogi’r Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru

• BookTrust, elusen fwyaf y DU ym maes darllen plant

Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y gynhadledd byddwch chi’n derbyn dolenni er mwyn i chi fynychu pob un o’r gweminarau a restrir isod. Hoffem eich annog i fynychu pob gweminar, ond os nad yw hynny’n bosib, bydd modd cael recordiad ohonynt yn fuan ar ôl y digwyddiad.

Bydd y 450 mynychwr cyntaf i gofrestru’n derbyn Blwch Gwych BookTrust Cymru sy’n cynnwys Llawlyfr y Gynhadledd wedi’i argraffu, sy’n archwilio themâu’r digwyddiad, yn ogystal â chasgliad o 20 llyfr blynyddoedd cynnar i’w defnyddio yn eich lleoliad, ac i’w rhannu â theuluoedd. Anfonir y rhain drwy’r post yn fuan ar ôl y digwyddiad

Bydd fersiwn ddigidol o Lawlyfr y Gynhadledd ar gael ar lein hefyd

Bydd pob gweminar yn digwydd ar lein dros Zoom.