Dewislen
English
Cysylltwch

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2022

Gwion Hallam
Mwy
Mirain Iwerydd
Mwy
Melanie Owen
Mwy
Siwan Rosser
Mwy
Y Panel Saesneg
Mwy
Gwion Hallam

Daw Gwion yn wreiddiol o Rydaman ond mae'n byw yn Y Felinheli bellach gyda Leri ei wraig a’u pedwar mab. Wrth ei waith bob dydd mae'n cynhyrchu rhaglenni teledu gyda chwmni Ffilmiau Twm Twm. Mae wedi cyhoeddi llyfrau rhyddiaith a barddoniaeth i blant a phobl ifanc ac enillodd ei nofel Creadyn wobr Tir na n-Og yn 2006. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw'r nofel Adnabod, ei nofel gyntaf i oedolion. Yn 2017, enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn.

Cau
Mirain Iwerydd

Yn wreiddiol o Sir Benfro, Mirain yw cyflwynydd y Sioe Frecwast bore dydd Sul ar BBC Radio Cymru 2. Mae hi hefyd i’w gweld mewn nifer o fideos HANSH, a roedd yn ‘Ymbarel’ Stwnsh Sadwrn S4C yn 2019. Mae Mirain hefyd yn rhan o’r criw ffôn presennol ar Stwnsh Sadwrn, ac yn 2018, enillodd wobr genedlaethol y siaradwr cyhoeddus gorau mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus Ffederasiwn Cenedlaethol Ffermwyr Ifanc o dan 16 oed.

Cau
Melanie Owen

Mae Melanie yn gyflwynydd, podcastiwr a cholofnydd gyda ffocws ar faterion cyfoes a sylwebaeth ddiwylliannol. Fe ymunodd â thîm cyflwyno Ffermio S4C yn ddiweddar, ac mae hi hefyd yn golofnydd ar raglen gylchgrawn Prynhawn Da ac yn adolygu papurau bore Sadwrn i Radio Cymru. Mae Melanie yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer platfform HANSH sy’n archwilio gwahanol elfennau o fod yn hil gymysg a Chymraeg, yn ogystal â chyfrannu at podcast Mel, Mal, Jal. Fel awdur brwd, mae Melanie yn ysgrifennu darnau barn ar gyfer llwyfannau amrywiol. Hi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y rhwydwaith blogio House 21 ac mae wrthi’n yn ysgrifennu ei llyfr cyntaf.

Cau
Siwan Rosser

Mae Siwan Rosser yn wreiddiol o Sir y Fflint a nawr yn uwch-ddarlithydd ac yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yno yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth Gymraeg i blant ac mae wedi arwain at ddealltwriaeth a thrafodaeth newydd ynghylch arwyddocâd a swyddogaeth llenyddiaeth ar gyfer darllenwyr ifainc. Enillodd Darllen y Dychymyg, ei chyfrol ar lenyddiaeth Gymraeg i blant o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r cysyniad o blentyndod, Wobr Goffa Syr Ellis-Griffith Prifysgol Cymru ac fe’i henwebwyd i restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Cau
Y Panel Saesneg

Matt Brown

Mae Matt yn awdur a darlledwr sy’n byw gyda’i deulu yn Sir Buckingham. Mae o wedi cyflwyno sawl sioe teledu boblogaidd gan gynnwys ar Nickelodeon, The Big Breakfast ac I’m A Celebrity Get Me Out of Here! Mae hefyd yn cyflwyno sioe benwythnosol ar Virgin Radio Chilled. Mae Matt wedi ysgrifennu saith llyfr i blant, sydd wedi’u disgrifio’n amrywiol fel ‘doniol’, ‘rhyfedd’, a ‘llyfrau’. Yn ddiweddar, ysgrifennodd a golygodd Y Mab, sy’n cynnwys 11 stori o’r Mabinogi wedi’u hail ddweud yn Gymraeg a Saesneg i blant.

Taylor Edmonds

Taylor Edmonds is a poet, writer and creative facilitator from Barry. She is currently Poet in Residence for the Future Generations Commissioner for Wales. She is a recipient of a 2020 Rising Star Award from Literature Wales & Firefly Press. Taylor is also a team member of Where I’m Coming From, a community-focused platform for underrepresented writers in Wales.

Krystal Lowe

Yn wreiddiol o Bermuda, mae Krystal S. Lowe yn fardd, yn ysgrifennu straeon byrion a sgriptiau. Mae ei gwaith yn archwilio themâu o hunaniaeth groestoriadol, lles ac iechyd meddwl, a grymuso. Ymhlith ei darnau diweddar a gomisiynwyd mae: ‘Whimsy’ ar gyfer Articulture Wales; ‘Rewild’ i’r Green Man Trust; ‘Daughters of the Sea’ i Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Somehow’ i Music Theatre Wales; a ‘Complexity of Skin’ a gomisiynwyd gan y Space ar gyfer Culture in Quarantine y BBC.

Andy Welch

Newyddiadurwr a darlledwr o Gymru yw Andy Welch sydd bellach yn byw yn Llundain. Mae'n gweithio i'r Guardian, lle mae'n olygydd ar The long read. Mae wedi cynhyrchu podlediadau, gweithio i NME a BBC 6 Music, ac addysgu theori ddiwylliannol mewn nifer o brifysgolion. Yn ddiweddar, cyfrannodd draethawd i Welsh (Plural): Essays on the future of Wales am ddysgu i garu’r acen y magwyd â hi yn ystod ei blentyndod yn Rhyl.

Cau