
Chwedlau Gwerin a Ffantasi
Tiwtoriaid / Catherine Johnson & Marcus Sedgwick
Bydd y cwrs hwn yn defnyddio straeon a chwedlau gwerin poblogaidd a rhai llai cyfarwydd fel man cychwyn i ddylanwadu ar weithiau rhyddiaith a ffantasi newydd. Byddwn yn edrych ar elfennau o’r straeon hyn ac yn eu defnyddio yn gerrig sylfaen i greu ein gweithiau epig ein hunain: cymeriadau cryfion mewn lleoliadau arallfydol, moesau amheus, anturiaethau a chyrchoedd, trosiadau a mwy. Bydd y tiwtoriaid yn eich dysgu sut i ddefnyddio’r canfyddiadau hyn fel ysbrydoliaeth i chi ysgrifennu eich straeon anhygoel eich hun, drwy drafodaethau, gweithdai, a gweithio ar eich pen eich hun i greu delweddau, syniadau a geiriau. Gyda Tŷ Newydd wedi ei wreiddio yn y tir a ysbrydolodd y Mabinogi, bydd yr wythnos yn cynnwys digon o amser rhydd i chi i fynd am dro a chrwydro i lawr i’r traeth i edrych dros y môr tuag at orsedd Bendigeidfran y cawr yng Nghastell Harlech, neu lawr i Afon Dwyfor lle bydd y rhai lwcus yn eich plith yn siŵr o gael cip ar y tylwyth teg yn dawnsio yn y gwyll…
Bydd y cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr a’r mwy profiadol, a gall fod o gymorth i awduron ddatblygu eu crefft mewn ysgrifennu straeon byrion, nofelau, llenyddiaeth i bobl ifainc ac i blant, ynghyd a datblygu straeon i’w hadrodd ar lafar.