Ymunwch â Lesley Parr am weithdy digidol sydd yn archwilio sut i greu cymeriadau bythgofiadwy ar gyfer llenyddiaeth plant. Yn y gweithdy byr hwn, byddwch yn edrych ar yr elfennau pwysig o greu cymeriadau y bydd y darllenwyr eisiau treulio amser yn eu cwmni. Beth bynnag fydd eich genre dewisol, bydd y ffocws ar fod yn driw – sut i wneud i’ch cymeriadau deimlo fel cymeriadau gig a gwaed i’r darllenydd – yn y ffordd maen nhw’n siarad, y pethau maen nhw’n eu gwneud, a sut maen nhw’n gyrru’r stori gyda’u gweithredoedd. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd. Cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn. 

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol. 

Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.