Mae’r llyfrau y mae plant yn eu darllen yn dylanwadu sut y maent yn gweld eu hunain a’r byd o’u cwmpas, a dylai’r arlwy ar eu cyfer gynnwys llyfrau a chymeriadau y gallent uniaethu â hwy.

Ymunwch â ni am drafodaeth banel ar ddeall y diffyg amrywiaeth hanesyddol a chyfredol o fewn llenyddiaeth plant yng Nghymru a thu hwnt. Dysgwch beth sydd wedi’i wneud hyd yn hyn, a pha gamau y dylem eu cymryd yn y dyfodol. Bydd y sesiwn ddwyieithog rhad ac am ddim hon yn cynnwys trafodaeth 1 awr rhwng arbenigwyr yn y maes, ac yna sesiwn holi-ac-ateb 30 munud o hyd.  

Cofrestru: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_T4ZffWr5S-O6lgYrPuSX3w

Siaradwyr 

Dr. Ann Alston 

Mae Dr Ann Alston yn uwch ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Plant ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste lle mae hi’n dysgu sawl modiwl ar lenyddiaeth plant sy’n dyddio o 1865 i 2020. Yn ogystal ag ysgrifennu sawl erthygl ac ei llyfr, The Family in English Children’s Literature (Routledge, 2008), golygodd ar y cyd dwy gasgliad o erthyglau, Roald Dahl: A Casebook (Palgrave Macmillan, 2012) a Children’s Literature in the Long Nineteenth Century (Routledge 2019). Mae Ann yn angerddol dros lenyddiaeth plant ac yn aml fe’i gwahoddir i ysgolion i siarad â staff a disgyblion am ddarlleniadau dadansoddol o waith ac i’w cynghori am lyfrau newydd. Mae Ann hefyd yn adolygu llyfrau i blant a phobl ifanc ar gyfer Just Imagine, mae hi ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn academaidd Children’s Literature in Education ac mae hi wedi bod digon ffodus i gydweithio â’r cyhoeddwr llyfrau llun a stori annibynnol, Book Island. Cafodd Ann ei geni a’i magu’n Sir Fôn ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phlant a’i chasgliad eang o lyfrau plant.

 

Yr Athro Charlotte Williams 

Mae Charlotte Williams OBE yn academydd, yn awdur ac yn feirniad diwylliannol. Mae hi’n Athro Emeritws yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a’r Gwyddoniaethau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Charlotte wedi ymchwilio a chyhoeddi’n helaeth ar faterion ym ymwneud ag ymfudo, hil ac ethnigrwydd yng Nghymru, gan ddefnyddio cyfryngau academaidd, llenyddol a phoblogaidd. Hi yw cyd-olygydd y testun arloesol ‘A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a devolved Wales’ (GPC 2003 a 2015) a’i chofiant, ‘Sugar and Slate’ (2002 Planet, 2022 Parthian a 2024 Penguin), sy’n archwilio ei threftadaeth Gymreig-Guyanese a’i hunaniaeth diasporig. Enillodd ei chofiant gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003, cafodd ei hailargraffu ar gyfer Llyfrgell Cymru yn 2022 a bydd yn cael ei chyhoeddi gan Penguin yn 2024 o dan eu cyfres Black Britain Writing Back. Yn 2020, penodwyd Charlotte yn Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd a fydd yn cael goblygiadau pellgyrhaeddol ym mhob ysgol yng Nghymru. Charlotte yw Meddyliwr Preswyl yng Ngŵyl y Gelli eleni. 

 

Dr. Siwan Rosser 

Mae Siwan Rosser yn wreiddiol o Sir y Fflint a nawr yn uwch-ddarlithydd ac yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yno yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth Gymraeg i blant ac mae wedi arwain at ddealltwriaeth a thrafodaeth newydd ynghylch arwyddocâd a swyddogaeth llenyddiaeth ar gyfer darllenwyr ifainc. Enillodd Darllen y Dychymyg, ei chyfrol ar lenyddiaeth Gymraeg i blant o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r cysyniad o blentyndod, Wobr Goffa Syr Ellis-Griffith Prifysgol Cymru ac fe’i henwebwyd i restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021. 

 

Darren Chetty 

Ganwyd Darren Chetty yn Abertawe, ac mae’n byw yn Llundain. Cyfrannodd at The Good Immigrant (Unbound, 2016), a The Mab (Unbound, 2022). Bu’n gyd-olygydd Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a Critical Philosophy of Race and Education (Routledge, 2019). Darren oedd cyd-awdur How to Disagree: Negotiate Difference in a Divided World (White Lion Publishing, 2019) a What is Masculinity? Why Does it Matter? And Other Big Questions (Wayland, 2021).

Mae’n ysgrifennu ‘Beyond the Secret Garden’, colofn reolaidd ar gyfer Books for Keeps gyda’r Athro Karen Sands O’Connor. Mae llyfr yn seiliedig ar y colofnau ar y gweill gyda’r Ganolfan Cyfryngau Saesneg.