Dewislen
English
Cysylltwch

Gŵyl y Gelli yn cyhoeddi’r awduron a ddewiswyd ar gyfer Awduron Wrth Eu Gwaith 2023

Cyhoeddwyd Maw 23 Mai 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gŵyl y Gelli yn cyhoeddi’r awduron a ddewiswyd ar gyfer Awduron Wrth Eu Gwaith 2023
Heddiw, mae Gŵyl y Gelli wedi cyhoeddi’r garfan Awduron wrth eu Gwaith, rhaglen datblygu greadigol ar gyfer talent newydd o Gymru yng Ngŵyl y Gelli 2023 (25 Mai-4 Mehefin) gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gan gynnig wythnos lawn o gyfleoedd datblygu creadigol, mae Awduron wrth eu Gwaith yn caniatáu i’r awduron dethol gymryd rhan ym mhrif ddigwyddiadau’r Ŵyl, mynychu dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.

Yn agored i awduron sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws genres – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol greadigol a barddoniaeth – mae’r 10 ymgeisydd llwyddiannus eleni’n cynnwys:

  • Connor Allen
  • Sophie Buchaillard
  • Brennig Davies
  • Nia Davies
  • Gwenllian Ellis
  • Louise Mumford
  • Taz Rahman
  • Francesca Reece
  • Anthony Shapland
  • Emma Smith-Barton

Prosiect Gŵyl y Gelli yw Awduron wrth eu Gwaith, sydd yn cael ei gefnogi gan Lenyddiaeth Cymru – y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth – ac sy’n cael ei redeg gan yr awdur Tiffany Murray. Mae’r rheiny sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn wedi ennill sawl gwobr wahanol a chyrraedd rhestrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn, Gwobrau’r New Welsh Writing Award, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr “Rising Star” Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.

Fe’i sefydlwyd yn 2016 er mwyn meithrin talentau o Gymru yn y ddwy iaith, ac fe gafodd Awduron wrth eu Gwaith ei oedi yn ystod y pandemig Covid-19. Bydd 2023 yn nodi ei bumed flwyddyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch: “Mae Gŵyl y Gelli yn dod â llenorion, darllenwyr ac – yn hanfodol – cyfleoedd creadigol at ei gilydd. Fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru, rydym yn falch o’n gwreiddiau Cymreig ac yn cymryd ein cyfrifoldeb i dirwedd ddiwylliannol Cymru o ddifrif. Rydyn ni’n falch iawn o gynnal Awduron wrth eu Gwaith unwaith eto yn 2023, ac rydym wedi diweddaru’r fformat i ymateb i’r heriau mae pobl greadigol newydd Cymru’n eu hwynebu heddiw, ac i ddiogelu a thyfu ein heffaith greadigol ar gyfer y dyfodol.”

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn: “Mae’n bleser cael cydweithio gyda Gŵyl y Gelli unwaith eto ar y rhaglen datblygu awduron pwysig hon. Mae’r rhaglen wedi meithrin ac ysbrydoli cymaint o lenorion gwych o Gymru, sydd bellach wedi eu sefydlu’n gadarn o fewn ein diwylliant llenyddol. Y tu hwnt i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth awduron unigol, mae’n dod â chymysgedd hudolus o feddyliau creadigol at ei gilydd o bob rhan o’r wlad. Mae rhaglenni blaenorol wedi arwain at greu rhwydweithiau a chydweithrediadau newydd, sydd wedi chwarae rhan bwysig mewn trawsnewid llenyddiaeth Cymru yn ffurfiau ar gelfyddyd fwy cynrychioliadol, mentrus, a blaengar.”

 

Meddai’r awdur a’r cyn-gyfranogwr Darren Chetty: “Roedd bod yn rhan o Awduron yn y Gwaith 2019 yn brofiad gwych. Cefais glywed gan awduron blaenllaw a bod yn rhan o gymuned gefnogol o awduron o Gymru. Fe wnaeth tri ohonom a wnaeth gyfarfod drwy’r rhaglen Awduron wrth eu Gwaith fynd ymlaen i gyd-olygu Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales.”

Gŵyl y Gelli yw gŵyl syniadau fwyaf blaenllaw’r byd, sydd yn dod â darllenwyr ac awduron at ei gilydd mewn digwyddiadau cynaliadwy i ysbrydoli, archwilio a diddanu ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae rhaglen eleni yn lansio’r llyfrau ffuglen a ffeithiol newydd gorau, ac yn cynnig mewnwelediad a thrafodaethau ynghylch materion byd-eang pwysig. Mae awduron, llunwyr polisi ac arloeswyr arobryn yn cymryd rhan o bedwar ban byd, ac yn cynnig syniadau newydd.

Mae’r gwesteion yn cynnwys yr awduron Margaret Atwood, Barbara Kingsolver, Eleanor Catton, Max Porter, Jonathan Coe, Leïla Slimani, Fflur Dafydd, Caleb Azumah Nelson, Alys Conran, Richard Ford, Jojo Moyes, Horatio Clare, Natalie Haynes, Richard Osman, Douglas Stuart, Elif Shafak, Katherine May; y beirdd Simon Armitage, Owen Sheers, Carol Ann Duffy, Rufus Mufasa a Michael Rosen; Seren YA Alice Oseman; arwyr i blant Cressida Cowell, Jacqueline Wilson, Julia Donaldson, Connor Allen; eiconau cerddorol Stormzy, Dua Lipa, The Proclaimers, y Levellers,  Judi Jackson, Baaba Maal, Zhadan and the Dogs; digrifwyr Dara Ó Briain, Tom Allen, Jason Byrne, Kiri Pritchard-McLean, Josie Long, Isy Suttie; sêr y llwyfan a’r sgrin Helena Bonham Carter, Richard E. Grant; gwleidyddion a llunwyr polisi Sadiq Khan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Patrick Vallance; newyddiadurwyr George Monbiot, Alastair Campbell, Marina Hyde, Gary Younge, Lyse Doucet; ymgyrchydd Munroe Bergdorf; economegydd Mariana Mazzucato; haneswyr Lucy Worsley, Simon Schama, Irene Vallejo; artist Tracey Emin; fodies Mary Berry, Jack Monroe, Ruth Rogers, Andi Oliver a Prue Leith; Meddylwyr Preswyl Laura Bates, Will Gompertz, David Olusoga, Charlotte Williams; a llawer mwy.

Mae tocynnau ar gael nawr drwy fynd i hayfestival.org/wales neu drwy ffonio 01497 822 629.