Sut ydych chi’n ysgrifennu arswyd ar gyfer oedolion ifanc? Sut ydych chi’n creu plotiau a chymeriadau hudolus?  

Ymunwch â ni i drafod y themâu hyn gyda Kat Ellis. Bydd y weminar rhad ac am ddim hon yn cynnwys trafodaeth 1 awr ac yna sesiwn holi-ac-ateb 30 munud. 

Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_uAKzQ9RaTsCE4h6aOSkbaQ 

Ynglŷn â Kat Ellis 

Mae Kat Ellis yn ysgrifennu i oedolion ifanc ac mae ei nofelau yn cynnwys Wicked Little Deeds/Burden Falls (Awst 2021), Harrow Lake (Gorffennaf 2020), Purge (Medi 2016), Breaker (Mai 2016), a Blackfin Sky (Mai 2014). Mae hi’n hoff o arswyd a gwyddonias o bob math, ac yn fforiwr brwd o adfeilion, cestyll a mynwentydd – ac mae digon ohonynt yng ngogledd Cymru, lle mae Kat yn byw gyda’i gŵr. Gallwch ddarganfod mwy am Kat drwy ei gwefan, www.katelliswrites.com, neu cysylltwch â hi ar y cyfryngau cymdeithasol: 

Facebook: facebook.com/katelliswrites 

Instagram: @katelliswrites 

Twitter: @el_kat