Bydd Brian Davies yn adrodd straeon o’i lyfr Gwlad y Plwmb o bedair cenhedlaeth o un teulu o ogledd Ceredigion, wedi’u darlunio â phaentiadau gan y cyntaf ohonynt, Capten William James (1842-1917), a ffotograffau o archifau teuluol Brian.

Aeth Capten James i’r môr; gwasanaethodd ei fab William Richard James (1895-1968) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda Llu Alldeithiol yr Aifft. Roedd John David Davies (1876-1942) yn löwr plwm yn lleol ac yn ddiweddarach yn löwr yn ne Cymru; ac Isaac Jenkins (1883-1966) yn gweithio ar y Rheilffordd Cwm Rheidol i Bontarfynach.

Mae hanes y teulu yn dangos sut y datblygodd y tir o amgylch Aberystwyth ac i mewn i Fynyddoedd Cambria dros y ganrif drwy amaethyddiaeth, mwyngloddio, gweithgareddau morwrol a thwristiaeth.