I wneud cais am le ar y cwrs hwn, dylech lenwi’r ffurflen gais hon.
Bydd y ffurflen yn gofyn i chi esbonio pam eich bod am gymryd rhan yn Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2026. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i uwchlwytho sampl byr o’ch gwaith creadigol gwreiddiol (oddeutu 1,000 o eiriau neu hyd at 5 cerdd). Gall hyn fod yn farddoniaeth, rhyddiaith, gwaith ffeithiol greadigol neu monolog.
Os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod wedi darllen y Cwestiynau Cyffredin cyn cyflwyno cais.
I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn dyslecsia gyfeillgar a fersiwn print bras hefyd ar gael isod. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn neu anfon cais fideo yn hytrach na’r ffurflen gais arlein, dychwelwch eich ffurflen a’ch enghraifft o waith creadigol i post@llenyddiaethcymru.org.erbyn 12.00pm (hanner dydd), dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025.
Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). Gallwch hefyd gysylltu â Nye o Gelfyddydau Anabledd Cymru: post@disabilityarts.cymru