Dydd Sadwrn 21 Hydref, 11yb-5.30yp, ar-lein ac yn Venue Cymru, Llandudno. Gweithdai, straeon, gemau, gofod i ymarfer straeon, a chystadlaethau.

  • Adrodd straeon gyda Peter Stevenson
  • Sut i adrodd stori heb lyfr- gweithdy gyda Peter Stevenson
  • Ymarfer eich Gofod Stori gyda Gill Brownson
  • Gemau Straeon gyda Billie a Tor
  • Cystadleuaeth ar gyfer teitl ‘Storïwr Ifanc Cymru’ yn y categorïau oedran 7-11, 12-15 a 16-25

Sut i gystadlu

Ar gyfer y cystadlaethau ddydd Sadwrn 21 Hydref, cofrestrwch ymlaen llaw er mwyn i ni gadw lle i chi, ac anfon y ddolen atoch os ydych yn ymuno â ni ar-lein.   Efallai y bydd modd cofrestru ar y diwrnod, ond dim ond os oes lle ar ôl.

Mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth

  • Mae’n agored i bobl 7-25 oed sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru
  • Bydd gennych hyd at 5 munud i adrodd eich stori
  • Gallwch ddod i Landudno neu ymunwch â ni o unrhyw le dros Zoom
  • Gallwch adrodd stori yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
  • Bydd gwobr i bawb sy’n cymryd rhan a gwobr arbennig i’r enillydd ymhob categori oedran.

I gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth llenwch y ffurflen yma: https://forms.gle/EuWpsh98xD7qVUPP6