Cerddi Canol Pnawn yn cyflwyno Tegwen Bruce-Deans
Mae Cerddi Canol Pnawn yn cynnig llwyfan agored i farddoniaeth o bob math trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gofodau croesawgar, di-alcohol yng nghymunedau gogledd orllewin Cymru.
Ein bardd gwadd y tro hwn yw Tegwen Bruce-Deans, bardd cadair yr Urdd 2023, ac awdur y gyfrol ddiweddar Gwawrio (Cyhoeddiadau Barddas); ac mi fydd hi’n ymuno gyda ni ar bnawn Sadwrn 11 Tachwedd am 14:30 yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda. Mi fydd ‘na banad (a chacan, gyda lwc), a mynediad am ddim gyda chyfle i gyfrannu, os medrwch chi, swm o’ch dewis chi tuag at gynnal y digwyddiad.
Os yda chi awydd darllen cerdd neu ddwy yn y mic agored; does yna ddim thema benodol ac mi gewch chi roi eich enw lawr ar y diwrnod – croeso i bawb!