Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Mymryn Rhyddid

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Mymryn Rhyddid gan Gruffudd Owen, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Barddoniaeth Cymraeg.
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro. Mae tynfa barhaus rhwng magwrfa bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r ‘bwlch siâp Duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno. Er gwaethaf hyn, mae gwreichion o hiwmor a gobaith drwy’r cyfan; y gobaith anodd hwnnw o wybod – er bod pethau’n anodd – bod yn rhaid parhau.
Am yr Awdur
Mae Gruffudd Owen yn fardd, dramodydd a sgriptiwr teledu o Bwllheli. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021. Mymryn Rhyddid yw ei ail gyfrol o gerddi ar gyfer oedolion. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i feibion.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Trafodwyd y gyfrol mewn sgwrs gyda Gruffudd Owen ar bodlediad Clera ym mis Hydref 2023.
Sgwrs rhwng Golwg360 a Gruffudd Owen ym mis Mai 2024.
Trafodwyd y gyfrol ar bodlediad Caru Darllen ym mis Tachwedd 2023.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Mymryn Rhyddid trwy wefan Gwales.