Dewislen
English
Cysylltwch
Elinor Davies
Mwy
Andrew Ogun
Mwy
Lisa Blower
Mwy
Malachy Owain Edwards
Mwy
Elinor Davies

Mae Elinor Davies yn asiant cyswllt yn Asiantaeth Lenyddol Madeleine Milburn, ac yn cynrychioli awduron sy'n ysgrifennu ffuglen fasnachol ac arloesol i oedolion. Dechreuodd ei gyrfa fel asiant gyda'r cwmni yn 2021 yn dilyn cwblhau gradd mewn Cyfryngau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Mae Elinor hefyd wedi ymgymryd â rolau golygu a mentora amrywiol gyda sefydliadau sy'n canolbwyntio ar awduron gan gynnwys Asian Women Writers, Jericho Writers ac Academi Faber.

"Mae’n anrhydedd cael gweithio’n agos gyda Llenyddiaeth Cymru a’r panel eleni i ddewis carfan pumed flwyddyn rhaglen Cynrychioli Cymru. Mae'r rhaglen yn rhoi llais i awduron heb gynrychiolaeth ddigonol mewn genres a disgyblaethau ysgrifennu amrywiol, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin ac amlygu’r ystod eang ac amrywiol o dalent Gymreig sydd ar gael. Rwy’n edrych ymlaen at gael fy syfrdanu gan ymgeiswyr eleni."

Cau
Andrew Ogun

Mae Andrew Ogun yn fardd ac yn gerddor o Gasnewydd. Andrew yw prif drefnydd BLM Gwent ac ef yw Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Lucent Dreaming yn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Slingshot, yn Hydref 2024.

Cau
Lisa Blower

Mae Lisa Blower yn awdur ac academydd arobryn a enwir gan Kit De Waal fel “etifedd naturiol Arnold Bennett”. Mae hi'n hyrwyddwr cryf o lenyddiaeth dosbarth gweithiol a lleisiau rhanbarthol, gan dalu gwrogaeth yn aml i The Potteries lle cafodd ei magu. Mae Lisa wedi ysgrifennu dwy nofel, Sitting Ducks (Fair Acre Press, 2016) - a gyrhaeddodd restr fer The Rubery Award, Gwobr Arnold Bennett a Not the Booker The Guardian - a Pondweed (Myriad Editions, 2020). Enillodd ei chasgliad o straeon byrion It's Gone Dark over Bill's Mother's (Myriad Editions, 2019) Wobr Arnold Bennett. Cyfrannodd i Common People (gol. Kit De Waal, Unbound, 2019), a bu’n golofnydd i The New Issue yn ystod 2020. Ymddangoswyd ei drama, ‘The Miner Birds’ sy’n coffau 40 mlynedd o waith Grŵp Gweithredu Gwragedd Glowyr Gogledd Staffs, am y tro cyntaf yn The New Vic yng Ngorffennaf 2024. Mae ganddi PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol o Brifysgol Bangor ac mae'n darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Keele, lle mae'n parhau i hyrwyddo lleisiau rhanbarthol.

Cau
Malachy Owain Edwards

Yn enedigol o Lundain ac wedi ei fagu yn Ffynnon Taf mae Malachy Owain Edwards bellach yn byw yn Ynys Môn. Cafodd ei gofiant ffeithiol greadigol, Y Delyn Aur, ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023 a’i gynnwys ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Ynddo mae Malachy yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i ddilyniant ei gyfres gofiannol ffeithiol greadigol, Paradwys Goll, a gyhoeddir yn 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur yn golofnydd i gylchgrawn Golwg.

Cau