Kandace Siobhan Walker
MwyTaylor Edmonds
Mae Taylor Edmonds yn awdur, bardd a hwylusydd creadigol o'r Barri. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth gyntaf, Back Teeth, gyda Broken Sleep Books. Taylor yw sylfaenydd Writing for Joy, cyfres o weithdai ysgrifennu a chyrsiau sy'n canolbwyntio ar lesiant. Cyn hynny, roedd Taylor yn Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, gan archwilio rôl creadigrwydd yn yr argyfwng hinsawdd. Mae hi wedi derbyn Gwobr Rising Stars gan Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press am ei hysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Ar hyn o bryd mae Taylor yn gweithio ar ei nofel ffuglen gyntaf i oedolion ifanc.
Kandace Siobhan Walker
Mae Kandace Siobhan Walker yn awdur ac artist o dras Jamaican-Canada, Saltwater Geechee a Chymreig. Hi hefyd yw awdur Kaleido (Bad Betty Press). Yn 2021, derbyniodd Wobr Eric Gregory ac enillodd Gwobr Bardd y White Review. Yn 2019, enillodd Gwobr Stori Fer 4th Estate BAME y Guardian. Fe enillodd Kandace Y Wobr Farddoniaeth Saesneg yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda'i chyfrol, 'Cowboy'.