
Categori /
Digwyddiad, Lansiad Llyfr
Lansiad Haydn a Rhys
Ymunwch a’r awdur Geraint Lewis fydd yn sgwrsio hefo Jon Gower am ei nofel diweddaraf Haydn a Rhys.
Mwy am y nofel:
Dau gyfaill bore oes yw Haydn a Rhys, sydd wedi teithio o Geredigion i Ynys Môn er mwyn profi damcaniaeth Haydn fod ei fab yng nghyfraith yn cael affêr. Wrth iddyn nhw gynnal eu stake-out mewn maes carafannau ar yr arfordir, cawn wybod mwy am gwrs bywyd y ddau, a darganfod eu bod yn cadw sawl cyfrinach dyngedfennol rhag ei gilydd.
📍Pipes, Kings Yard, Caerdydd
🗓 23 Ionawr 2025, 7:00-9:00pm
Bydd pizzas a diodydd ar gael, dewch yn llu!