
Datblygu Awduron y Dyfodol: Sesiynau Amser Cinio
Ymunwch â ni am sesiynau awr o hyd dros amser cinio i glywed gan rai o’n hawduron a’n hwyluswyr ifanc mwyaf disglair. Bydd cyfle i gael eich hysbrydoli, ac i ddysgu mwy am sut i ddatblygu eich crefft a’ch gyrfa fel awdur drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru yn hwyluso’r sgyrsiau, ac yn holi’r awduron sut mae cychwyn arni, cyn bwrw ati i fentro ac arloesi ym myd llenyddiaeth Cymru heddiw. Os y bydd amser yn caniatáu, bydd croeso i aelodau’r gynulleidfa yrru cwestiynau i’r awduron.
Gall awduron o bob oedran fod ar gychwyn eu gyrfa ysgrifennu, ac mae ein digwyddiadau i awduron newydd ar agor i awduron o 18 oed hyd at gant! Mae’r digwyddiad hwn â gogwydd sy’n edrych ar yrfaoedd awduron iau, gan ei fod wedi ei drefnu fel rhan o’n cynnig i enillwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd – ond mae croeso cynnes i bawb.
12.00 pm hanner dydd – 1.00 pm
Dydd Iau 6 Mawrth
Marged Tudur a Sioned Erin Hughes
Cofrestru ar gyfer y webinar yma
Mae Dr Marged Tudur yn fardd a enillodd wobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda’i chyfrol gyntaf, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch) sy’n gyfrol ddirdynnol sy’n ymdrin â galar, a daeth ei cherddi yn agos iawn i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu Marged yn gweithio fel golygydd i wasg Y Lolfa, gan adael dylanwad amlwg ar sawl awdur cyfoes a chyfrolau poblogaidd diweddar. Mae bellach yn darlithio ac yn dysgu ysgrifennu creadigol yn Adran Gymraeg Bangor. Mae’n aelod o dîm Talwrn Dros yr Aber.
Enillodd y Prif Lenor Sioned Erin Hughes y Fedal Ryddiaith gyda’i chyfrol Rhyngom (Y Lolfa) yn 2022. Cyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, a daeth hefyd yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa, 2019) a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020 – cyfrol o gyfraniadau gan awduron sy’n byw â chyflyrau iechyd amrywiol. Cyhoeddodd lyfr i blant, Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch), ar ddechrau’r clo mawr yn 2020, ac mae ganddi brofiad fel ymarferydd llenyddol yn defnyddio ei chrefft fel awdur i annog, ysbrydoli a hybu llesiant. Mae Erin yn gweithio fel trefnydd i Gymdeithas Barddas.