Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Gwenno Gwilym

Holi’r Awdur: Gwenno Gwilym
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Dw i’n cofio ‘sgwennu stori yn yr ysgol am ryw greadur arall fydol yn gyrru llong ofod oedd yn rhedeg ar Ribena felly mae’n rhaid bod yr awydd i sgwennu storis yna reit ifanc. Ond o ddifri, dim ond ers i mi astudio gradd MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2020. Dyna pryd wnes i ddechrau neilltuo amser i sgwennu.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Pob dim – llyfrau, teledu, ffrindiau, cerddoriaeth, teulu – dwi’n dychmygu pob dim dwi’n ei weld, ei glywed a’i ddarllen yn mynd fewn i grochan enfawr yn fy mrên a does wybod beth fydd yn dod allan.
Beth yw eich hoff lyfr o’ch plentyndod?
Rala Rwdins. Dim cystadleuaeth. Dw i’n caru’r Llipryn Llwyd.
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Y cymeriadau dw i’n meddwl. Dyna ddaeth gyntaf a nhw wedyn wnaeth yrru’r penderfyniad i ysgrifennu mewn dwy iaith. Roedd y stori bron fel petai allan o fy rheolaeth, nhw oedd yn penderfynu beth oedd yn digwydd nesaf.
Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?
Unrhywun gobeithio ond dwi’n meddwl fod pobl sydd wedi/wrthi’n magu plant yn mynd i uniaethu a’r sefyllfa. A hefyd unrhywun sydd wedi cael eu magu’n ddwyieithog … sy’n cynnwys pawb yng Nghymru i ryw raddau, tydi?
Allwch chi esbonio mwy am y llyfr os gwelwch yn dda?
Pwy yw eich arwr a pam?
Does gen i ddim un arwr ond dw i’n edmygu pob un o fy ffrindiau am wahanol resymau. Mae treulio amser hefo nhw yn ysbrydoliaeth. Ffrindiau da make the world go round.
Eich hoff le yn y byd a pam?
Fy hoff le i yn y byd i gyd yn grwn yw ein tŷ ni. Rydw i wrth fy modd yn cyrraedd adref ar ôl bod i ffwrdd. Does unman yn debyg i gartref, yn enwedig os ‘da chi’n byw yn Nyffryn Ogwen. Nefoedd o le.
Oes gennych chi waith/digwyddiad arall ar y gweill?
Rydw i wrthi’n sgwennu fy ail nofel, sydd yn lot o hwyl. Dw i’n mwynhau dod i adnabod ac obsession am gymeriadau newydd.
Rwyf hefyd yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru eleni felly mae gen i lawer iawn o bethau cyffroes ar y gweill. Mae’r rhaglen datblygu awduron gan Lenyddiaeth Cymru yn cynnwys mentora, gweithdai, digwyddiadau llenyddol a mwy dros gyfnod o flwyddyn. Mae wedi bod yn hollol ffantastig hyd yma. Y digwyddiad nesaf yw diwrnod yng Ngŵyl y Gelli felly edrych ymlaen achos dw i erioed wedi bod o’r blaen.
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Mae cael bod ar y rhestr fer yn deimlad hollol swreal. Mae pob dim i wneud a V + Fo wedi bod yn anghredadwy – o’r lansiad, i’r adolygiadau, i’r gefnogaeth gan bawb – rwyf ar ben fy nigon.
Yng Ngeiriau’r Beirniaid…
Geiriau gan eraill…
Darllen / Gwrando Pellach:
Adolygiad nation.cymru – Book Review: V + Fo – The bold, bilingual rom-com Cymru needs
Stori Golwg360 – Matiau cwrw i hybu nofel gyda “lot o Wenglish” ynddi – Golwg360
Hoff Lyfrau, Golwg360 – Hoff lyfrau golwg360 yn 2024 – Golwg360
Holi’r Awdur, Ogwen360 – V + Fo – dod i adnabod mwy am nofelydd newydd lleol – Ogwen360
Colli’r Plot, ‘Y Bennod Hyfryd’ – Y Bennod Hyfryd – Colli’r Plot | AM
Colli’r Plot, ‘ Pwy sy’n Gwrando?’ – Colli’r Plot | AM