Dewislen
English
Cysylltwch

Siôn Tomos Owen yw Bardd Plant Cymru 2025-2027

Cyhoeddwyd Mer 10 Medi 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Siôn Tomos Owen yw Bardd Plant Cymru 2025-2027
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Siôn Tomos Owen fydd y Bardd Plant Cymru nesaf, a Nicola Davies fydd yn ymgymryd a rôl Children’s Laureate Wales. Mae’r ddau ar fin dechrau ar daith o feithrin creadigrwydd, ailgynnau angerdd at ddarllen, a grymuso plant i ysgogi newid.

Maent yn camu i esgidiau Nia Morais ac Alex Wharton, sydd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ledled Cymru ers eu penodi yn 2023.

Cyhoeddwyd y newyddion yn Llyfrgell Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ddydd Mercher 10 Medi. Croesawyd plant lleol o Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Gynradd Caerau a Sgwad ‘Sgwennu Maesteg i’r llyfrgell i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion. Ynghyd â rhai gwahoddedigion o’r meysydd llenyddiaeth, cyhoeddi ac addysg, cafodd y plant eu diddanu gan y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales newydd, a ddarllenodd eu cerddi cyntaf wrth ddechrau ar y gwaith. Yn ogystal, cafwyd perfformiadau a sgyrsiau gyda Nia Morais ac Alex Wharton, a gyflwynodd gerddi cyfarch a geiriau o gyngor i’w holynwyr.

Er fod y ddau brosiect yn annibynnol o’i gilydd, maent yn chwaer-gynlluniau sydd yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. Darllenwch ragor amdanynt isod.

Bardd Plant Cymru

Children’s Laureate Wales

An illustration of two people holding a book and smiling. Written on the book are the words Children's Laureate Wales and Bardd Plant Cymru. The artwork is by Siôn Tomos Owen.

Am Siôn Tomos Owen

Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, bardd, artist a chyflwynwr dwyieithog o Dreorci yn Rhondda Fawr. Mae’n gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol. Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi Cynefin a Pobol y Rhondda, roedd hefyd yn gyfrannwr comedi i raglenni Y Tŷ Rygbi, Jonathan ac Academi Gomedi.  Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a’i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o’r enw Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol, 2025).  Mae wedi ‘sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg, ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith.

 

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y rôl hon, dywedodd: “Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu’r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a’r dwys, ac i ddefnyddio’r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roedden i’r un oedran.”


Am Nicola Davies

Dechreuodd Nicola Davies ei gyrfa fel biolegydd. Bu’n astudio gwyddau, ystlumod a morfilod yn y gwyllt. Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd ar raglenni teledu fel The Really Wild Show ar y BBC, cyn dod yn awdur. Mae hi wedi ysgrifennu mwy na 90 o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys barddoniaeth, llyfrau lluniau a nofelau. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 12 o ieithoedd gwahanol ac wedi ennill gwobrau yng Nghymru, y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ogystal â llawer o lyfrau am fyd natur mae Nicola wedi ysgrifennu am anabledd, galar, mudo dynol a hawliau plant. Mae ei nofelau YA diweddar The Song that Sings Us a Skrimsli, y ddau wedi’u cyhoeddi gan Firefly Press, ill dau wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Yoto Carniege am Ysgrifennu. Enillodd Skrimsli gategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn yn 2024, a chyrhaeddodd ei chasgliad barddoniaeth Choose Love (Graffeg) restr fer Gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2024.

Mae Nicola’n rhannu’r nod hwn ar gyfer ei chyfnod yn y rôl: “Rydw i am i holl blant Cymru brofi pleser darllen, grym anhygoel ‘sgwennu, ac i ddod o hyd i’w lleisiau creadigol eu hunain fel cenhedlaeth all alw am newid ac eiriolwyr dros ddyfodol sy’n fwy teg ac yn fwy cynaliadwy.”

 

Caiff y ddau gynllun eu rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal, caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei gefnogi gan y partneriaid Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, ac ar gyfer 2025-2026 caiff cynllun Children’s Laureate Wales ei gefnogi gan yr Ashley Family Foundation. Caiff y ddwy rôl eu gwobrwyo bob dwy flynedd i lenorion ysbrydoledig sy’n angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth. Sefydlwyd Bardd Plant Cymru yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 18 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Sefydlwyd cynllun Children’s Laureate Wales yn 2019, a Nicola Davies fydd y pedwerydd deiliad.

Penodwyd y llenorion gan baneli o arbenigwyr ym meysydd llenyddiaeth ac addysg plant, dan ofal Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“I ddechrau, hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch o waelod calon i Nia Morais ac Alex Wharton am eu gwaith caled dros ddwy flynedd. O gynnal gweithdai yng Ngharchar y Parc, i gynnal gweithdai rhithiol i grwpiau o bobl ifanc o Gymru ac ym Mhalesteina, i gerdded cannoedd o filltiroedd o ysgol i ysgol yn sir Fôn ac ym Mhowys…mae’r ddau wedi rhoi ymdrech arwrol i’w nod o ysbrydoli plant a phobl ifanc i feithrin cariad at eiriau a barddoniaeth.

Yna estynnwn groeso cynnes iawn i’w holynwyr – Siôn Tomos Owen a Nicola Davies, sydd â chynlluniau uchelgeisiol am brosiectau am fyd natur a bywyd gwyllt, pwysigrwydd darllen ac ysgrifennu, a pharhau i deithio ledled Cymru yn lysgenhadon dros greadigrwydd. Mae’n fraint gennym i groesawu’r ddau i deulu Llenyddiaeth Cymru, a dymunwn bob lwc iddynt ar yr antur mawr sydd ar fin dechrau.”