hithau’n Hen Galan, byddwn yn dwyn ynghyd panel o feirdd i drafod ein traddodiad barddol. Yn un o’r nodweddion sy’n gwneud Cymru a’r Gymraeg yn unigryw dros y byd – bydd cyfle i ni ganu mawl i ganrifoedd o’r gynghanedd, o farddoni a llenydda. Ond bydd cyfle hefyd i ni graffu a thrafod cynrychiolaeth o fewn ein llenyddiaeth. A oes clwydi neu rwystrau sy’n atal lleisiau o bob math i ymuno â’r canon creu cerddi? Bydd cyfle i drafod menywod yn ennill Cadeiriau, Talwrn y Beirdd a Thalwrn y Gêirdd, a’r tebygrwydd rhwng canu marwnadol Cymraeg, Persieg ac Wrdw…

Iaith y sesiwn: Cymraeg (dim gwasanaeth cyfieithu)

Archebu eich lle

 

Y siaradwyr: 

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd a dramodydd a cafodd ei gwaith ei gyfieithu i ddeunaw o ieithoedd. Cyhoeddodd bymtheg cyfrol o farddoniaeth, nofelau i blant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr o’r Unol Daleithiau ac yng ngwledydd Prydain yn ogystal â dramâu ar gyfer y teledu a’r radio. Ei chyfrolau diweddaraf o farddoniaeth yw Parch (2025), Bondo (2017) a Murmur (2012) o wasg Bloodaxe. Mae Menna wedi ymgyrchu ac eirioli dros sawl achos dros y blynyddoedd, yn cynnwys hawliau plant, deddfwriaeth i’r iaith Gymraeg, ac mae bellach yn Llywydd Anrhydeddus PEN Cymru gan ymgyrchu dros hawliau awduron ledled y byd. 

O Lundain yn wreiddiol, hyfforddodd Jo Heyde fel pianydd. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac ers 2021, mae hi wedi bod wrthi’n barddoni. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Derwyddon, ac Ysgol Farddol Caerfyrddin, yn ogystal â bod yn gydlynydd Bardd y Mis ar ran Barddas i BBC Radio Cymru – gan roi sylw arbennig i amrywiaeth eang o feirdd â’u gwahanol brofiadau, er mwyn denu lleisiau a thalent newydd a fydd yn cyfoethogi’r byd barddol. Cafodd ei phamffled, Cân y Croesi, ei gyhoeddi yn 2024 gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, ac ym Mawrth 2025, cafodd ei chyfrol, Chwarter Eiliad ei chyhoeddi gan Barddas. Bu Jo yn cynorthwyo Llenyddiaeth Cymru a Barddas ar y ddau banel fu’n gyfrifol am ddewis carfan Pencerdd 2024 a 2025. 

Awdur, cyfieithydd ac ymchwilydd yw Hammad Rind. Yn wreiddiol o Bacistan, mae wedi byw yng Nghymru ers 2013 ac yn dysgu Cymraeg ers 2023. Ef yw awdur y nofel Saesneg Four Dervishes (Seren Books, 2021) a chyd-gyfieithydd Nodiadlyfr Bach y Wawr (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2025), a gyfieithodd o’r Arabeg gydag Iestyn Tyne. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth mewn llenyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, dan nawdd y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, yn canolbwyntio ar y traddodiad marwnad yn y Gymraeg, Perseg ac Wrdw. Cyn hyn, bu’n arbrofi gyda’r gynghanedd mewn prosiect dan arweiniad Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Roedd Hammad ar Restr Fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2025, ac yn Feirniad Gwobr Llyfr y Flwyddyn i Llenyddiaeth Cymru. 

Mae Brennig Davies yn fardd ac awdur o Fro Morgannwg, sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ei gerddi a straeon wedi ymddangos yn Barddas, Ffosfforws, Poetry Wales, The London Magazine, a The Guardian, ac wedi eu darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 4. Mae Brennig yn angerddol dros gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig ar gyfer y gymuned LHDTC+. Fe gyfrannodd i Curiadau (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth cwiar yn Gymraeg, a Cymry Balch Ifanc (Rily, 2024), enillydd Gwobr Tir na n-Og 2025. Fe gystadlodd hefyd yn Nhalwrn y Geirdd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Mae’n aelod o garfan Pencerdd 2025-2026, ac fe fydd ei bamffled gyntaf o gerddi, Cofnod o’r Llosgi (sy’n delio gyda themâu megis rhywioldeb a hunanddelwedd), yn “dod mas” gyda Chyhoeddiadau’r Stamp yn 2026.