Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 2026-2027

Mae ffenestr ymgeisio rhaglen Cynrychioli Cymru 2026-2027 ar agor nawr! 
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 16 Hydref a dydd Mercher 5 Tachwedd 2025. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org, gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel llinell y testun.

Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen isod, gan gynnwys pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais. Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras a fformat dyslecsia gyfeillgarar y dudalen Dogfennau.

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.