Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu dros ugain mlynedd o Gwrs Olwen: cydweithio gyda’r Urdd i gefnogi awduron ifanc

Cyhoeddwyd Llu 22 Rhag 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu dros ugain mlynedd o Gwrs Olwen: cydweithio gyda’r Urdd i gefnogi awduron ifanc
Cwrs Olwen 2025
Fis Tachwedd eleni, cafodd Llenyddiaeth Cymru y pleser o groesawu criw o awduron ifanc unwaith eto i Dŷ Newydd ar gyfer Cwrs Olwen. Ers dros ugain mlynedd, mae’r cwrs hwn wedi ei gynnig yn flynyddol yn rhad ac am ddim, gyda gwaddol y cwrs yn parhau i gynyddu ac i fod yn destun dathlu. Cynhaliwyd y cwrs eleni drwy garedigrwydd hael yr Urdd, y Loteri Genedlaethol a Chyngor Gwynedd.

Trefnir Cwrs Olwen yn flynyddol ar gyfer yr awduron sy’n dod i’r brig ym mhrif gystadlaethau llenyddol yr Urdd yn ogystal ag i leisiau newydd ac addawol eraill sy’n ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy gynnig gofod ac amser i gymuned newydd o awduron, bwriad y cwrs yw galluogi iddynt ddod i adnabod eu cyfoedion a’u hannog i barhau i ddatblygu eu crefft ymhellach. Mae cyfranogwyr o’r gorffennol yn cynnwys llenorion sydd wedi mynd ymlaen i ennill rhai o brif wobrau llenyddol Cymru, ac wedi hen ennill eu llefydd yn ein diwylliant llenyddol. Yn eu mysg mae Carwyn Eckley, Sioned Erin Hughes, Megan Angharad Hunter, Aneirin Karadog, Gruffudd Owen ac Iestyn Tyne.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yr Urdd,

‘Mae’r Urdd yn falch iawn o’r bartneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru sy’n ein galluogi i roi profiadau pellach i’n llenorion ifanc. Mae Cwrs Olwen yn binacl blwyddyn i’r rheiny sy’n cyrraedd y brig yn ein prif seremonïau llenyddol, ac mae’r cwrs yn cynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau a chreu rhwydweithiau, er mwyn iddynt allu dilyn gyrfa yn y byd llenyddol. Mae cannoedd o bobl ifanc wedi elwa o’r cwrs dros y blynyddoedd, ac mae’r gwaith sy’n deillio o Gwrs Olwen yn dylanwadu ar y byd cyhoeddi yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon yn eu hannog i fentro, i fod yn ddewr, ac i godi eu lleisiau drwy eiriau, i sicrhau fod lle cadarn i bobl ifanc yn ein llyfrau, cyfrolau a dramâu i’r dyfodol.’

Y deg awdur i fynychu’r cwrs eleni oedd, Mali Elwy, Robin Humphreys, Mirain Iwerydd, Celt John, Nanw Maelor, Catrin Morris, Tesni Peers, Awen Pritchard, Rebecca Rees, Elin Williams a Llio Williams. Y tiwtoriaid oedd Casia Wiliam a Llŷr Gwyn Lewis. Arweiniodd y ddau weithdai grŵp creadigol gyda’r testunau’n amrywio o sut i fireinio llais mewn ffuglen i gynganeddu. Yn ogystal, ymunodd y bardd, darlithydd a’r golygydd profiadol, Marged Tudur â’r criw ar nos Sadwrn fel darllenydd gwadd.

Meddai Casia Wiliam am y profiad o diwtora Cwrs Olwen:

“Mae’n bleser ac yn fraint cael arwain cwrs yn Nhŷ Newydd, ond yn arbennig felly Cwrs Olwen. Mae’n gyfle i dreulio amser gydag, a meithrin talent y to nesaf o feirdd ac awduron, a’r rheiny yn danllwyth o dalent.”

Yn dilyn yr cwrs, bydd pob un o’r awduron hefyd yn elwa o sesiwn un-i-un gyda’r tiwtoriaid dros Zoom ym mis Chwefror 2027, i gynnig cefnogaeth parhaus i’w datblygiad.

Yn eu hadborth, cytunodd 100% o’r awduron ifanc eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i ddechrau eu gyrfa ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i’r cwrs.

Edrychwn ymlaen yn arw i barhau i’w cefnogi a dathlu eu campau dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Cwrs Olwen yn rhan o raglen datblygu awduron ehangach Llenyddiaeth Cymru lle cynigir cyfleoedd rhad ac am ddim i awduron ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni i awduron, ewch draw i dudalen prosiectau Llenyddiaeth Cymru.