Dewislen
English
Cysylltwch

Menywod Cronig: 14 o feirdd yn dod ynghyd i godi lleisiau menywod sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig yng Nghymru

Cyhoeddwyd Iau 22 Ion 2026
Menywod Cronig: 14 o feirdd yn dod ynghyd i godi lleisiau menywod sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig yng Nghymru
Hanan Issa

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio prosiect barddoniaeth sydd â’r nod o wella dealltwriaeth o gyflyrau iechyd menywod a chefnogi gwaith parhaus i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal iechyd a chanlyniadau i fenywod yng Nghymru. 

Dyfeisiwyd Menywod Cronig gan Hanan IssaBardd Cenedlaethol presennol Cymru, a gafodd ei hysbrydoli gan Gynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024. Gweithiodd Hanan gyda Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, i ddatblygu’r syniad. 

Mae’r ddwy ymhlith 14 o awduron benywaidd o Gymru sydd wedi ysgrifennu cerddi wedi’u hysbrydoli gan eu profiad bywyd eu hunain o gyflyrau iechyd cronig ac anabledd ar gyfer blodeugerdd ddwyieithog o farddoniaeth. 

Cyhoeddir yr antholeg, Chronic Women Menywod Cronig, gan Wasg Honno ym mis Chwefror 2026; bydd 700 o gopïau am ddim yn cael eu dosbarthu i feddygfeydd teulu a lleoliadau gofal iechyd eraill ledled Cymru. 

Bydd y beirdd hefyd yn arwain cyfres o 10 gweithdy gyda menywod, merched a staff y GIG, o gwmpas Cymru ym mis Ionawr a mis Chwefror. Bydd y gweithdai yn defnyddio’r detholiad fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau ac yn archwilio’r rôl y gall barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol ei chwarae wrth gefnogi menywod sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig. 

Cynhelir digwyddiad dathlu, gyda darlleniadau o’r detholiad ac ysgrifennu sy’n deillio o’r gweithdai, yn y Senedd ar 17 Mawrth. 

Wrth gyhoeddi’r prosiect, dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Mae llenyddiaeth – fel awdur neu ddarllenydd – yn eithriadol o rymus. Bydd y prosiect hwn yn harneisio’r grym hwnnw gan ddefnyddio sgiliau creadigol rhai o feirdd gorau ein gwlad i ehangu dealltwriaeth o iechyd menywod, pwnc sy’n dal i gael ei anwybyddu’n aml, er ei fod yn effeithio ar fwy na hanner y boblogaeth. Rydym yn hynod falch o fod yn arwain prosiect mor bwysig.” 

Dywedodd Hanan Issa: “Mae prosiect fel hwn yn teimlo’n angenrheidiol ac yn bwysig. Am gyfnod rhy hir, mae menywod wedi cael eu rhoi o’r neilltu – eu pryderon wedi’u tanseilio a’u dibrisio, a’u cyflyrau wedi’u diystyru. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r menywod a weithiodd ar y rhodd hon i bawb, cadarnhad pendant nad oes angen i unrhyw un sy’n byw gyda chyflyrau cronig deimlo ar ei phen ei hun.” 

Dywedodd Gwyneth Lewis: “Os ydych chi’n profi cyflwr cronig, mae’r gyfrol bwysig hon yn dangos nad ydych chi ar eich pen eich hunan. Dyma gerddi i gysuro, ysbrydoli a helpu i ffeindio cwmpeini, ynghyd â chefnogaeth meddygol a chymdeithasol wrth fyw i’r eithaf, beth bynnag fo’ch amgylchiadau iechyd.” 

Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Iechyd Menywod (Perfformiad a Gwella GIG Cymru): “Mae’r detholiad hwn yn dwyn ynghyd leisiau beirdd sydd wedi rhannu eu profiadau bywyd o gyflyrau iechyd cronig yn ddewr. Trwy eu mynegiant creadigol, mae’r gweithiau hyn yn cynnig cipolwg ar y realiti y mae menywod yn ei wynebu bob dydd – realiti sy’n aml yn parhau i fod yn anweledig neu’n cael ei gamddeall. 

“Drwy rannu’r cerddi hyn mewn digwyddiadau a gweithdai o fewn byrddau iechyd, ein nod yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach, sbarduno sgyrsiau ystyrlon a herio stigma. Mae’r casgliad hwn yn fwy na geiriau ar dudalen; mae’n llwyfan ar gyfer codi ymwybyddiaeth, empathi ac ysgogi newid. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli deialog, yn annog myfyrio ac yn ein hatgoffa o’r cryfder a’r gwydnwch a geir ym mhob stori. 

“Diolch i’r holl feirdd sydd wedi gwireddu hyn drwy eu cyfraniadau. Bydd eich lleisiau’n helpu i lunio dull mwy tosturiol a gwybodus o ymdrin ag iechyd a lles.” 

Mae prosiect Menywod Cronig wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan Llenyddiaeth Cymru ac yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Menywod (Perfformiad a Gwella GIG Cymru); y Timau Celfyddydau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Gwasg Honno a chyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru. 

Fe’i hariennir gan Gronfa Loteri Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’r flodeugerdd wedi’i gwireddu gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.