Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Carfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2026

Cyhoeddwyd Iau 5 Chw 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Carfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2026
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r wyth awdur sydd wedi eu dethol i fod yn rhan o raglen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2026.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynnal y cwrs hwn arlein o 2023-2025, eleni rydym yn gwahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol i fynychu encil mewn person yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac yna sesiynau un-i-un arlein dan arweiniad y dramodydd a’r awdur, Kaite O’Reilly.

Mae’r rhaglen hwn yn benodol ar gyfer awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol sy’n dymuno ehangu eu sgiliau creadigol. Mae’n canolbwyntio ar sut i fod yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol wrth greu cymeriadau, safbwyntiau, naratifau a bydoedd ffuglennol, a bydd yn gyfle i’r rheiny sydd heb archwilio eu hunaniaeth anabl i fynegi eu profiad bywyd.

Daeth y nifer uchaf eto o geisiadau i law, ac ar ôl ystyried yn ofalus, mae’r panel wedi dewis wyth awdur disglair i elwa o’r cyfle arbennig hwn. Yr awduron hynny yw: Shazz Jamieson-Evans, Jamie Harper-Harrison, Ruth Fabby, Susanna Callaghan, Beth Rees, Lisa Derrick, Demelza Monk a Hiba Ahmad. Darllenwch ragor amdanynt a’r hyn y maent yn gobeithio ei ddysgu o’r encil ar dudalen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad.

Edrychwn ymlaen at groesawu a chefnogi carfan newydd o awduron, ac at ddilyn eu siwrneiau creadigol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar i Celfyddydau Anabledd Cymru am eu cefnogaeth a’u cyngor fel partneriaid yn y cynllun hwn, ac i The Fenton Arts Trust ac i’r Loteri Genedlaethol, trwy law Cyngor Celfyddydau Cymru, am eu cefnogaeth ariannol hael.