Ysgrifennu’r Llif
Gweithdy dwyieithog arfaethedig, 3 awr o hyd, fydd Ysgrifennu’r Llif/Writing the Flow, a bydd yn cael ei gynnal yn Llangoed, Ynys Môn ar Fawrth 28ain/29ain i gyd-fynd â Llwybr Cerfluniau Aberlleiniog Sculpture Trail. Cynllunnir y gweithdy i fod yn hygyrch ac o fydd i sgwenwyr o bob lefel; byddwn yn croesawy rhai profiadol a dibrofiad ac yn eu hannog i rannu eu lleisiau unigryw eu hunain.
Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan y beirdd/awduron Sian Northey a Ness Owen, cyd-olygyddion y blodeugerddi dwyieithog Afonydd: Poems for Welsh Rivers / Cerddi Afonydd Cymru ac A470: Poems for the Road/ Cerddi’r Ffordd.
Bydd y rhai sydd yn ymuno â Sian a Ness yn cael eu tywys ar daith gerdded o bentref Llangoed ar hyd glan Afon Lleiniog i’r fan ble mae’r afon yn cyrraedd y môr. Cynhelir nifer o ymarferiadau ysgrifennu, yn unigol ac fel grŵp, yn ystod y daith gan ganolbwyntio ar y cynefin ac ar yr hanes a’r chwedloniaeth sydd ynghlwm â’r afon.