Dewislen
English
Cysylltwch
Pam Rydym yn Bodoli 

Rydym yn bodoli oherwydd bod lleisiau ifanc yn bwysig. 

Rydym yn gymuned o awduron ifanc ar draws Cymru sy’n creu, cefnogi ac ysbrydoli ei gilydd. 

Rydym yn hyrwyddo mynegiant, hyder, creadigrwydd, a dyfodol llenyddiaeth Cymru.

 

Pwy Ydym Ni 

Rydym yn awduron beiddgar, gonest ac uchelgeisiol. 

Criw sydd â gwreiddiau yng Nghymru gyda straeon sy’n siarad ymhell y tu hwnt iddi.

Cymuned gyfeillgar a chynhwysol lle mae creadigrwydd yn ffynnu a thalent yn tyfu.

 

Ein Gwerthoedd 

Parchu pob llais. 

Parhau i fod yn agored i syniadau, arbrofi a gwahaniaeth. 

Cefnogaeth drwy garedigrwydd ac adborth adeiladol. 

Creadigrwydd gyda dewrder a chwilfrydedd. 

Ymrwymiad i ddatblygu ein crefft. 

 

Sut Rydym yn Gweithio 

Rydym yn gwrando yn gyntaf. 

Rydym yn rhannu gofod yn deg. 

Rydym yn dathlu cynnydd, nid perffeithrwydd. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal i bob aelod ddisgleirio. 

Rydym yn creu lle diogel, di-farn i ddysgu, profi ac arbrofi.

 

Ein Cenhadaeth Greadigol 

Rydym yn gwthio ffiniau – ffurf, llais, strwythur, a disgwyliad.

Rydym yn herio stereoteipiau am bobl ifanc a llenyddiaeth Cymru.

Rydym yn adrodd straeon cymhleth lle disgwylir symlrwydd.

Rydym yn arloesi, yn cymryd risgiau, ac yn ehangu’r hyn y gall ysgrifennu Cymreig fod.

 

Ein Heffaith 

Rydym yn ysbrydoli awduron ifanc eraill. 

Rydym yn rhoi llwyfan i leisiau sy’n haeddu cael eu clywed. 

Rydym yn cefnogi ysgrifennu creadigol yng Nghymru ac yn helpu i lunio sgyrsiau cenedlaethol.

Rydym yn cysylltu â sefydliadau, digwyddiadau a chymunedau, gan adael drysau ar agor y tu ôl i ni.

 

Ein Dyfodol 

Ymhen pum mlynedd, rydym am edrych yn ôl ar:

Rhwydwaith cryf a chefnogol. 

Awduron sy’n teimlo llai unig. 

Straeon dewr a heriodd normau. 

Tyfu fel pobl greadigol ac fel criw 

Cyfeillgarwch parhaol a gwaith cyhoeddedig.

 

Ein Llais yng Nghymru

Dylai awduron ifanc lunio sgyrsiau diwylliannol – gan ddod â gwirionedd, dyfnder, gwreiddioldeb a derbyniad.

Ni yw’r don nesaf o greadigrwydd Cymru, ac rydym yn arwain gyda gonestrwydd, dychymyg a dewrder.

 

Dyma ein maniffesto. 

Datganiad o bwy ydym ni, yr hyn a gredwn ni, a’r dyfodol yr ydym am ei adeiladu gyda’n gilydd.

 

Gyda gobaith, 

Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol Cymru 

Nôl i Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol