
Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2026!
Seremoni Wobrwyo 2026
Bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2026 yn dychwelyd i’r gogledd ac yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon nos Iau 9 Gorffennaf 2026. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gaernarfon i ddathlu cyfraniad a thalentau llenorion Cymru, a darganfod pa gyfrolau fydd yn hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2026 yn Gymraeg a Saesneg.
Derbyniad diodydd: 6:00pm
Seremoni Wobrwyo: 7:00pm
Dathlu: 8:45pm – yn hwyr!
Bydd tocynnau ar gael i’r cyhoedd ar ôl cyhoeddi’r Rhestr Fer ym mis Mai, gyda manylion llawn ar ein gwefan.
Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol @llyfr_y_flwyddyn_wboty a @llencymru_litwales a thudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn am y newyddion diweddaraf.