Dweud eich Dweud – Holiadur Awduron 2026
Cyhoeddwyd Iau 9 Ebr 2026

Mae Llenyddiaeth Cymru wrthi’n adolygu ei strategaeth, ac mae eich llais chi’n bwysig.
Mae profiadau, safbwyntiau ac uchelgeisiau awduron Cymru yn ganolog i’r gwaith o lunio isadeiledd llenyddol sydd wirioneddol yn eich cefnogi ac yn eich cynrychioli.
Bydd eich adborth dienw yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio ein cyfeiriad yn y dyfodol. O ddatblygu ein rhaglen weithgareddau i welliannau yn y ffordd rydym yn gweithredu fel sefydliad, bydd eich adborth dienw yn helpu i sicrhau bod ein gwaith mor effeithiol a pherthnasol â phosibl.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd 15 munud ar gyfartaledd i’w gwblhau. Fel diolch am eich amser, byddwch yn cael y cyfle i ennill 1 o 10 taleb llyfr gwerth £25.