Cyhoeddi Awduron wrth eu Gwaith ar gyfer Gŵyl y Gelli 2026

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gwyl y Gelli yn cynnig deg diwrnod llawn o gyfleoedd datblygu creadigol, ac yn caniatáu i’r awduron sydd yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn digwyddiadau’r Ŵyl, mynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantau ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.
Mae’r rhaglen ar agor i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws genres gwahanol – ffuglen, ffeithiol greadigol a barddoniaeth – ac y 10 ymgeisydd llwyddiannus eleni yw:
- Sophie Calon
- Ben Huxley
- Steffan Wilson-Jones
- Holly Müller
- Naomi Pearce
- Silvia Rose
- Emily Paradice-Ruan
- Carys Shannon
- Stacey Taylor
- Rolant Tomos
Mae Awduron wrth eu Gwaith yn brosiect Gŵyl y Gelli sydd yn cael ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru – y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth – ac sy’n cael ei redeg gan yr awdur Tiffany Murray.
Mae’r cyfranogwyr hyd yma wedi mwynhau llwyddiant cyhoeddi byd-eang ar ôl y profiad, ac wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn Cymru, Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones, Gwobr New Welsh Writing, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr Rising Stars Cymru, Gwobr Nofelwyr Newydd Gorau y Guardian, a Gwobr Cymru Greadigol.
Sefydlwyd Awduron wrth eu Gwaith yn 2016 i feithrin talent ysgrifennu o Gymru yn y ddwy iaith, a chafodd ei stopio dros dro yn ystod Covid-19. Bydd 2026 yn nodi ei hwythfed flwyddyn.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Gŵyl y Gelli, Julie Finch:
“Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfranogwyr Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2026: sef ciplun o dalent ysgrifennu Cymru, sy’n gwthio ffiniau ffuglen, llyfrau creadigol ffeithiol a barddoniaeth. Yn ystod 11 diwrnod yr Ŵyl, bydd y grŵp hwn yn mwynhau rhaglen o weithdai a digwyddiadau wedi’u teilwra i’w hanghenion, ac yn diogelu a thyfu ein cymuned greadigol ar gyfer y dyfodol.
“Fel elusen, pwrpas Gŵyl y Gelli ydy agor mynediad i ysbrydoliaeth greadigol. Yn yr ysbryd hwn, mae ein Gŵyl y gwanwyn yn dod ag awduron, darllenwyr chwilfrydig ac – yn hollbwysig – cyfleoedd creadigol at ei gilydd. Ymunwch â ni.”
Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:
“Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen sy’n cefnogi awduron ar bob cam o’u taith. Rydym wrth ein boddau unwaith eto eleni i gefnogi rhaglen ddatblygu Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Does dim rhaglen arall o’i math ar y ddaear lle gall awduron Cymreig dderbyn hyfforddiant, ysbrydoliaeth a mentoriaeth gan ystod mor brofiadol ac amrywiol o awduron, cyhoeddwyr ac asiantwyr, ac edrychwn ymlaen i weld sut y bydd ein carfan dalentog yn manteisio ac yn datblygu o fod yn rhan o’r cyfle unwaith-mewn-oes hwn.”
Meddai Steffan Jones:
“Rwy’n teimlo’n anrhydedd a chyffro i ymuno â grŵp o Awduron wrth eu Gwaith eleni yng Ngŵyl y Gelli 2026 ac yn gobeithio dilyn olion traed yr awduron llwyddiannus sydd wedi cymryd rhan yn y blynyddoedd blaenorol. Mae Gŵyl y Gelli yn ddigwyddiad sydd â chyrhaeddiad byd-eang, ac mae’r drysau mae’n eu hagor yn ddiddiwedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau!”
Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2024 – Cyhoeddi enwau’r awduron

Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn cynnig deg diwrnod o gyfleoedd datblygu creadigol wedi’u rhaglennu’n llawn, sydd yn caniatáu i’r awduron dethol i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Ŵyl, a mynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.
Mae’r rhaglen ar agor i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws genres gwahanol – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol greadigol a barddoniaeth – ac y 10 ymgeisydd llwyddiannus eleni yw:
- Dylan Huw
- Hammad Rind
- Isabel Adonis
- JL George
- Joshua Jones
- Katie Munnik
- Megan Angharad Hunter
- Rachel Dawson
- Taylor Edmonds
- Zoë Brigley
Mae’r cyfranogwyr hyd yma wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn, Gwobr New Welsh Writing, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr Rising Stars Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.
Sefydlwyd Awduron wrth eu Gwaith yn 2016, i adeiladu talent ysgrifennu Cymru yn y ddwy iaith, a chafodd ei oedi yn ystod pandemig Covid-19. Bydd 2024 yn nodi ei chweched flwyddyn.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Gŵyl y Gelli, Julie Finch:
“Mae Hay Festival Global yn cynnull awduron, darllenwyr ac – yn hollbwysig – cyfleoedd creadigol. Fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru, rydym yn falch o’n gwreiddiau Cymreig, ac yn cymryd ein cyfrifoldeb mewn perthynas â thirlun diwylliannol Cymru o ddifrif. Mae’n bleser gennym arddangos ein rhaglen Awduron yn y Gwaith ar gyfer 2024. Bydd rhaglen weithgareddau eleni yn bodloni’r heriau y mae pobl greadigol newydd yng Nghymru yn eu hwynebu heddiw, ac yn diogelu a thyfu ein heffaith greadigol ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn:
“Llongyfarchiadau i’r deg awdur sydd wedi eu dewis i gymryd rhan yng nghyfle arbennig Awduron wrth eu Gwaith. Roedd yn fraint darllen cymaint o geisiadau safonol gan gymaint o awduron Cymreig, ac i gael ein cyflwyno i amryw o themâu a lleisiau newydd. Roedd yr egni creadigol o fewn y ceisiadau yn hynod, yn llawn uchelgais ac yn dangos awydd yr awduron i ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol. Rydym yn edrych ymlaen i weld sut y bydd yr awduron yn datblygu yn dilyn rhaglen wych Awduron wrth eu Gwaith 2024.”
I ddarganfod rhagor am yr awduron, ewch draw i wefan Gŵyl y Gelli.