Dewislen
English
Cysylltwch

Cyflwyniad

Mae Bethany Handley yn awdur, bardd ac ymgyrchydd anabledd arobryn o Sir Fynwy. Mae ei gwaith yn plethu creadigrwydd ag actifiaeth, gan archwilio mynediad at natur, ablrwydd, a’r tirweddau sy’n gadael argraff arni. Hi yw awdur My Body is a Meadow: Finding Freedom in the Outdoors (Headline, 2026), Cling Film (Seren, 2025), a chyd-olygydd Beyond / Tu Hwnt (Lucent Dreaming, 2025), y flodeugerdd ddwyieithog gyntaf o awduron Byddar ac Anabl o Gymru, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer categori Darganfod Gwobrau Llyfrau Prydain yn 2026.

Ochr yn ochr â’i gwaith llenyddol, mae Bethany yn cynghori sefydliadau a thirfeddianwyr ar wneud yr awyr agored yn fwy hygyrch. Mae hi hefyd yn llysgennad ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, Ramblers Cymru, ac ymgyrch Mynediad i Bawb Country Living, gan hyrwyddo cydraddoldeb mewn natur.

 

Newid mewn Persbectif

Roedd Bethany yn ysgrifennu pan oedd hi’n blentyn, ond dechreuodd droi at gyfansoddi cerddi pan gafodd salwch cronig yn ei harddegau. Cyn ymuno â rhaglenni datblygu awduron, mae hi’n dweud “bydden i byth wedi meiddio galw fy hun yn awdur, yn enwedig cyn cymryd rhan yn rhaglenni (Ail)Sgwennu Cymru a Chynrychioli Cymru.”

“Fel menyw ifanc anabl, doeddwn i ddim wedi gweld unrhyw un â chorff fel fy un i yn y byd cyhoeddi, a doeddwn i chwaith heb ddarllen llawer o straeon a oedd yn adlewyrchu fy mhrofiadau. Roedd ‘sgwennu’n teimlo fel hobi preifat yn hytrach na rhywbeth y gallwn ei ddilyn yn broffesiynol.”

Rhoddodd cymryd rhan yn y rhaglenni hyn “ganiatâd imi gymryd fy ysgrifennu o ddifrif,” gan ei helpu i ddod o hyd i gymuned, deall sut y gallai ysgrifennu fel bywoliaeth, a gwthio ei hun i fentro tiroedd newydd. “Roedd y newid hwnnw mewn hyder ac uchelgais yn drawsnewidiol.”

 

Hwyluso Ei Phrosiect Cyntaf

Pan roedd hi’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, cafodd Bethany ei hannog gan ddarlithwyr i wneud cais am gomisiwn i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol. Ochr yn ochr â Megan Angharad Hunter, gwnaeth gais am gomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru, a gynhigiwyd ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru. Ffrwyth y comisiwn oedd eu prosiect, Write Back / Grym Geiriau.

Buont yn gweithio gydag awduron 18–25 oed a oedd yn Fyddar, Anabl, a/neu â salwch cronig. Arweiniodd y prosiect at encil tair iaith dros ddau ddiwrnod yn Nhŷ Newydd, lle archwiliodd y cyfranogwyr eu perthynas â natur a’u cyrff trwy ysgrifennu, ioga, myfyrdod a thrafodaeth.

“Adeg hynny, doeddwn i erioed wedi hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol. Roedd Llenyddiaeth Cymru wedi ymddiried ynom ni a’n cefnogi drwy gydol y cyfnod. Rhoddodd y comisiwn y sgiliau a’r hyder i mi arwain gweithdai, cyflwynodd fi i awduron nodedig, a thynnodd sylw at bwysigrwydd mwyhau lleisiau Byddar ac Anabl Cymru.”

“Dim ond pum mlynedd yn ddiweddarach, ysgrifennu a hwyluso gweithdai yw fy swydd i, a bydd fy llyfr ffeithiol cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.”

Tra’n astudio ar gyfer ei gradd, roedd Bethany wrth ei bodd yn ysgrifennu ond “doedd gen i ddim syniad y gallai ddod yn yrfa.” Nid oedd hi’n adnabod awduron eraill ac ni allai ddychmygu ei hun yn y byd hwnnw. “Ehangodd Llenyddiaeth Cymru fy ngorwelion a gwneud i’r byd cyhoeddi deimlo’n hygyrch yn hytrach nag yn fygythiol. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un a oedd yn ysgrifennu fel eu swydd; roedd yn teimlo mor anghyraeddadwy, doeddwn i ddim yn meiddio breuddwydio y byddai’n bosibl i mi. Heb eu cefnogaeth, fydden i ddim yn awdur heddiw.”

 

Rhaglenni Datblygu

Ychydig yn ddiweddarach, cafodd Bethany ei dethol ar gyfer Cynrychioli Cymru 2023–2024, rhaglen ddatblygu flaenllaw Llenyddiaeth Cymru.

“Roedd y rhaglen wedi gwneud synnwyr o’r diwydiant cyhoeddi i mi, o weithio gydag asiantau i ddeall contractau, a helpodd fi i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithdai i blant ac oedolion. Cefais y cyfle i gwrdd â llawer o awduron a ffigurau ysbrydoledig yn y diwydiant, ond uchafbwynt penodol oedd cwrdd ag Eloise Williams, a helpodd fi i deimlo fod lle i fi yn y maes hwn, ac i fod yn fwy caredig gyda fy hunan a’m gwaith.”

Cafodd ei pharu â’r bardd Kim Moore fel ei mentor, ac roedd ei “haelioni, ei mewnwelediad a’i hanogaeth yn amhrisiadwy.” Gorffennodd y rhaglen wedi ennill cyfeillgarwch parhaol ei chyfoedion, asiant, a chytundebau cyhoeddi ar gyfer Cling Film a My Body is a Meadow. Tyfodd hefyd mewn hyder fel perfformiwr, gan ddarllen mewn gwyliau llên ledled y wlad.

Yn ystod y rhaglen, datblygodd Bethany salwch a newidiodd ei bywyd a chafodd ei pharlysu. “Roedd y gefnogaeth a gefais gan staff Llenyddiaeth Cymru a chyd-awduron yn eithriadol. Rhoddodd y cynllun arweiniad, gobaith a phwrpas i mi ar adeg lle roedd wir eu hangen arna’ i. Trodd un o gyfnodau anoddaf fy mywyd yn un o’r rhai mwyaf cadarnhaol a thrawsnewidiol.”

Cafodd Bethany ei dethol i fod yn rhan o garfan cwrs Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, dan arweiniad Kaite O’Reilly. “Roedd bod mewn gofod lle nad fi oedd yr unig awdur Anabl yn rhyddhaol iawn. Creodd Kaite, Celfyddydau Anabledd Cymru a Llenyddiaeth Cymru ofod mor ddiogel ac agored i rannu syniadau. Anogodd y cwrs feiddgarwch, arbrofi a gwrthdroi, ac fe’m hatgoffodd o bwysigrwydd cynnal mannau diogel i’n cymuned. Mae’r ethos hwnnw wedi llunio sut rwy’n gweithio.”

 

Tonnau Bychain

Drwy Cynrychioli Cymru, cyfarfu Bethany â’r awdures Sioned Erin Hughes. Ochr yn ochr â Megan Angharad Hunter, fe wnaethant gyd-olygu Beyond / Tu Hwnt, blodeugerdd dwyieithog o waith gan awduron Byddar ac Anabl Cymreig.

“Rwyf bellach wedi dod o hyd i’n blodeugerdd – ein dathliad radical, hardd o awduron Byddar ac Anabl cyfoes amrywiol Cymru – mewn siopau llyfrau ledled Cymru ond hefyd yn siop lyfrau’r National Theatre a siopau llyfrau eraill yn Llundain! Roedd yn foment mor gyffrous gweld ein lleisiau Byddar ac Anabl Cymreig allan yn y byd, yn enwedig ar adeg pan fo lleisiau Anabl yn cael eu tawelu.”

Ffurfiodd Bethany gysylltiadau personol dwfn hefyd drwy raglenni Llenyddiaeth Cymru. “Fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i rai o fy ffrindiau gorau. Mae’r rhwydwaith wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer ysgrifennu a chefnogaeth emosiynol a rhoi pobl i mi rannu drafftiau gyda nhw neu drafod syniadau.” Cyfarfu â Becca Wilson yn ystod cwrs (Ail)Sgwennu Cymru, “a symudodd i mewn gyda fi a fy nghath needy cyn i’r wythnos ddod i ben!”

Newidiodd (Ail)Sgwennu Cymru, dan arweiniad Darren Chetty ac Iestyn Tyne, ei hysgrifennu’n sylfaenol. Cyhoeddwyd y darn a ysgrifennodd yn ystod y cwrs yn ddiweddarach gan The Welsh Agenda, gan arwain at ymddangosiadau ar BBC Radio Wales a BBC Radio 4, a gwaith gyda Country Living. Daeth yn sylfaen i’w llyfr ffeithiol cyntaf.

Roedd aros yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd, lle mae’r holl stafelloedd cymunol yn hygyrch, yn drawsnewidiol: “Dangosodd i mi y gallwn i fyw bywyd annibynnol, llawn o hyd.”

Yn 2025, roedd Bethany yn rhan o’r panel dethol ar gyfer 6ed rownd Cynrychioli Cymru, gan chwarae rhan wrth roi cyfle i awduron eraill brofi prosiect fu’n hollbwysig wrth yrru ei gyrfa hithau.

 

Sylwadau Terfynol

“Y rhoddion mwyaf y mae Llenyddiaeth Cymru wedi’u rhoi i mi yw hyder a rhwydwaith amrywiol, meithringar. Rwyf bellach yn hwylusydd hyderus, yn cynnal gweithdai gyda phob grŵp oedran. Fyddwn i ddim wedi bod yn gyfforddus yn cynnal y gweithdai heb eu hyfforddiant a’u cyngor. Hefyd, cyn derbyn cefnogaeth gan Lenyddiaeth Cymru, dim ond barddoniaeth oeddwn i’n ei hysgrifennu, nawr rwy’n ysgrifennu barddoniaeth, llyfrau ffeithiol a ffuglen.”

“Mae staff Llenyddiaeth Cymru yn eithriadol… Mewn diwydiant a all deimlo’n elyniaethus tuag at awduron o gymunedau sydd wedi’u hymylu, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth barhaus yn hytrach na chyfleoedd untro.

Nid agor y drws yn unig y maen nhw’n ei wneud – maen nhw’n sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau ymhell ar ôl i chi gamu drwyddi. Heb eu cefnogaeth, byddai fy mywyd a’m gwaith yn edrych yn wahanol iawn.”

Nôl i Astudiaethau Achos