Mewn partneriaeth â Tafwyl | In partnership with Tafwyl

Yng Nghaerdydd Creadigol, rydym yn cynnal cyfleoedd rheolaidd i bobl greadigol ddod at ei gilydd i gysylltu a chydweithio drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, paneli a digwyddiadau cymdeithasol. Ers 2022, rydym hefyd wedi cynnal amrywiaeth o weithdai ‘Ystafell Ddosbarth Caerdydd Greadigol’, o rwydweithio i siarad cyhoeddus i wneud torch Nadolig i ysgrifennu.

Mae’r gweithdai hyn yn rhoi cyfle i bobl greadigol blymio’n ddwfn i bynciau penodol gyda grŵp o unigolion o’r un anian.Gan redeg ochr yn ochr â’n digwyddiadau Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol, mae’n bleser gennym lansio menter beilot newydd AMDANI, gan ddod ag artistiaid, gweithwyr llawrydd a busnesau ynghyd i fod yn greadigol a rhwydweithio mewn amgylchedd anffurfiol, wedi’i hwyluso gan berson creadigol sy’n dod i’r amlwg.

Rydym wrth ein bodd yn cynnal sesiwn arbennig AMDANI yn yr iaith Gymraeg mewn partneriaeth â gŵyl Tafwyl. Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae Rolant Tomos bellach yn byw ym Mro Morgannwg. Mae wedi cyfarwyddo dramâu teledu, rhedeg bragdy a gweithio mewn nifer o swyddi eraill rhwng y ddau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ar gyfer bobol ifanc. Meirw Byw yn 2025, a Raaarrr yn 2026. Bydd Meirw Byw 2:Didudydd yn cael ei gyhoeddi eleni, ac yn 2027 bydd Brithdir, stori gowbois ar gyfer oedolion ar eich silffoedd.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at y rhai sy’n dechrau ysgrifennu neu sydd eisiau strwythuro eu stori gyntaf.