Ymunwch â ni ar gyfer lansiad argraffiad clawr meddal newydd o’r ‘The Werner Sollors Reader: Ethnicity, Cosmopolitanism and Particularism’ (Gwasg Prifysgol Caeredin).
Mae’r gyfrol yn dwyn ynghyd draethodau sy’n ymestyn dros fwy na phedwar degawd ac yn arddangos gwaith Werner Sollors, un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol llenyddiaeth Americanaidd, ethnigrwydd, mudo ac hunaniaeth.

Bydd Werner Sollors yn ymuno â golygydd y gyfrol, Daniel G. Williams, mewn sgwrs â Rachel Farebrother. Bydd y drafodaeth yn archwilio’r syniadau sydd wedi llywio ysgolheictod Sollors, pwysigrwydd parhaus trafodaethau am ethnigrwydd a pherthyn, a gwerth dulliau cymharol o astudio llenyddiaeth a diwylliant.
Bydd copiau o’r llyfr ar gael (arian parod yn unig) am bris gostynedig o £25 (RRP: 34.99)

*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg

Werner Sollors
Mae Werner Sollors yn Athro Emeritws Henry B. ac Anne M. Cabot mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Harvard. Mae’n ysgolhaig o fri rhyngwladol ym maes llenyddiaeth a diwylliant America, ac mae ei waith wedi trawsnewid astudiaethau ethnigrwydd, mudo, hil a hunaniaeth. Ymhlith ei lyfrau mwyaf dylanwadol mae ‘Beyond Ethnicity’, ‘Neither Black Nor White Yet Both’, a ‘The Temptation of Despair’. Dros fwy na phedwar degawd mae wedi siapio trafodaethau am hunaniaeth ar draws ffiniau cenedlaethol.

Daniel G. Williams
Mae Daniel G. Williams yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar berthynas llenyddiaeth a cenedligrwydd, ethnigrwydd ac hunaniaeth ddiwylliannol. Mae wedi ysgrifennu a golygu nifer o gyfrolau, gan gynnwys ‘Black Skin, Blue Books’, ‘Wales Unchained’, a ‘The Werner Sollors Reader’. O fis Awst fe fydd yn gymrawd ymchwil yng Nghanolfan Hutchins, Prifysgol Harvard.

Rachel Farebrother
Mae Rachel Farebrother yn Uwch Ddarlithydd ym maes Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ysgolhaig blaenllaw ym maes llenyddiaeth a diwylliant America’r ugeinfed ganrif. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Affro-Americanaidd a moderniaeth. Hi yw awdur ‘The Collage Aesthetic in the Harlem Renaissance’ a golygydd (gyda Miriam Thaggert) ‘A History of the Harlem Renaissance’.