Nid oes lle ynddi hi ar gyfer hwbris. Gall yr atgofion eryd
ond ni orfoda hon olion ei thraed ar y tywod.
Gŵyr nad oedd disgwyl i’w thraed carreg barhau.
Gwnaeth hi ei hôl mewn ffordd wahanol –
Pob gweithred o ofal yn donnau mân trwy amser – yn ’sgythru’r
pridd a’r môr. Ni ddiflanna ei gwaddol pan chwyth y gwynt.
Yn hytrach fe leda, yn gytser mewn meddyliau newydd,
a thorch ei thynerwch yn dal yn fyw ynddynt hwy.
Atgofion wedi’u pêr-eneinio yw hon: yn ochenaid flinedig plentyn dwst y glo,
neu mewn ynganiad gofalus menyw yn darllen ei henw’n uchel.
Y gwaddol hwn sy’n ganghennau cysgodol a golau amser trwy’r dail
yn britho’r rhai sy’n cymryd cip tros eu hysgwydd cyn camu ’mlaen.
Merched ifanc yn cyhwfan fel baneri, yn breuddwydio am ennill marathon,
menywod yn sibrwd enw’u band yng ngobennydd y nos.
Gall eraill efallai drin gwallt, arwain y gad, fapio’r sêr, ysgrifennu, trwsio, adeiladu?
Oddi fewn i ni cludwn yr oll a fu ac a fydd.
Ond rhaid i ni, yn wastad, fyw yn llachar a bod yn llafar ein gofal.
Canys felly y noda’r sêr dreigl amser.
Gwyliant, gan enwi’r pelydrau bach gloyw yn y tywyllwch –
Betty, Cranogwen, Elaine, Margaret, Elizabeth.
Hanan Issa
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
Cyfieithiad Cymraeg gan Sian Northey