Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2026
Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 – Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
a’r Wobr Farddoniaeth – Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)

Dyma ail gyfrol o gerddi gan y Prifardd Mererid Hopwood. Yn y casgliad hwn cawn flas ar ddeng mlynedd o ganu caeth a rhydd ers cyhoeddi Nes Draw (Gomer, 2015). Rhwng y cloriau mae cerddi am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchfyd, bod yn fam ac yn fam-gu – a llawer mwy. Mae’r cyfan yn troi ar echel y gerdd Newid y Drefn sy’n cloi gyda’r geiriau cofiadwy ‘a threch nag anobaith troi dy gefn, yw gwybod dy galon: rhaid newid y drefn’.
Dywedodd Ifor ap Glyn ar ran y panel beirniadu:
“Aeth deng mlynedd heibio ers cyhoeddi casgliad diwethaf Mererid, ond bu’n werth aros am y gyfrol swmpus hon. Mae’r ferf syml sy’n rhoi teitl i’w chasgliad hi – ‘mae’ – ar yr un pryd yn ddatganiad athronyddol ynghylch breuder bywyd, ond hefyd yn nodweddiadol o ddiddordeb mawr Mererid mewn iaith – sut mae’n gweithio, a sut y byddwn yn ei rhannu. Bardd rhyngwladol ei gorwelion yw Mererid ac mae sawl cerdd yma sy’n datgelu ei hymrwymiad i’r ymgyrch dros heddwch. Mae ‘na dynerwch yn ei chanu; ond mae’na daerineb hefyd; ac yn fwy na dim mae’na obaith.”
Mae’r Prifardd Mererid Hopwood yn drysor cenedl, ac wrth gwrs, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, 2001. Mae hi wedi cyhoeddi nifer lawer o gyfrolau i oedolion a phlant ac wedi cael ei gwobrwyo am ei hymroddiad a’i thalentau. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Nes Draw, gyda Gomer yn 2015 a enillodd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol yn 2016. Mae (Cyhoeddiadau Barddas, 2025) yw ei hail gyfrol o farddoniaeth. Mererid yw Archdderwydd Gorsedd y Beirdd 2024-2027 ac mae hi hefyd yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wales Book of the Year 2026 – Noddir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd
a’r Wobr Ffuglen – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies
A Room Above a Shop, Anthony Shapland (Granta)

Pan fydd dau ddyn tawel yn ffurfio cysylltiad ansicr, nid yw’r naill na’r llall yn gwybod i ble y gallai arwain. Mae M wedi etifeddu busnes haearnwerthwyr ei deulu, ac mae B un mlynedd ar ddeg yn iau ac yn methu gweld unrhyw ddyfodol yn y lle y mae wedi tyfu i fyny ynddo. Ond pan fydd M yn cynnig swydd a llety iddo, mae’n derbyn. Wrth i’r ddau weithio ochr yn ochr yn y siop, maent hefyd yn dechrau adeiladu bywyd gyda’i gilydd yn yr un ystafell uwchben—y math o fywyd na wnaethant erioed ddychmygu oedd yn bosibl, ac un sy’n peryglu popeth pe bai eu perfformiad cyhoeddus yn llithro.
Yn datblygu yn ne Cymru yng nghyfnod a chefndir Adran 28, y ddadl ynghylch oedran cydsynio, ac argyfwng HIV ac AIDS, mae hon yn stori gariad dyner ac atseiniol, ac yn nofel gyntaf bwerus.
Tyfodd Anthony Shapland i fyny ym Margoed, yn ne Cymru. Mae’n awdur ac yn artist, ac yn sylfaenydd g39, gofod sy’n cael ei arwain gan artistiaid yng Nghaerdydd. Cyrhaeddodd ei stori fer Foolscap restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies, a chafodd Antony ei ddewis ar gyfer rhaglen, Awduron wrth eu Gwaith 2023 yng Ngŵyl y Gelli. Dyma ei nofel gyntaf.
