Categori /
Sgwrs Lenyddol
Iestyn Tyne: Y Cyfan a fu Rhyngom Ni – ar lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys
Noson agoriadol Cymdeithas Lenyddol Brynrhos yng nghwmni Iestyn Tyne, a fydd yn trafod ei lyfr am gerdd enwog Prosser Rhys a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn iddo eleni. Ynddo mae’n plethu dadansoddiad llenyddol, ystyriaethau o ysgrifennu LHCTC+ yng Nghymru, sensoriaeth a rhagfarn, cwestiynau am wreiddiau a magwraeth, cynefin ac ymfudo, salwch, a deinameg gymhleth cof a hunaniaeth.
Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar am nawdd gan Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru
Tocynnau am £3 (neu aelodaeth o’r Gymdeithas am £10)