Bydd yr artist a’r awdur Roy Claire Potter yn perfformio fersiwn monolog o’r sgript o COMMS FAIL, gwaith celf naratif newydd am y posibilrwydd dystopaidd o fethu â chyfathrebu.

Artist ac yn awdur sy’n perfformio, arddangos a chyhoeddi yw Roy Claire Potter.
Ar draws eu harfer amlddisgyblaethol – sy’n cwmpasu ysgrifennu arbrofol, perfformiadau lleisiol, arlunio, celfyddyd sain a gosodwaith – maen nhw’n ffurfio straeon o ddelweddau darniog a dwys sy’n cyfleu cyrff yn symud, golygfeydd domestig neu leoliadau pensaernïol. Mae diddordeb mewn cyfyngiadau cyfathrebu, is-destun a dilyniant naratif yn siapio’r gwaith yma, sy’n aml yn archwilio deinameg grŵp gymhleth neu ganlyniadau digwyddiadau treisgar, weithiau â hiwmor bwriadol.