Blodeugerdd Straeon Byrion Rhys Davies 2026 – Lansiad Llyfr
Ymunwch a ni i ddathlu lansiad Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2026.
Bydd y beirniad gwadd Tyler Keevil, y golygydd Elaine Canning, a phrif enillydd Cystadleuaeth Straeon Byrion Rhys Davies 2026 yn trafod y casgliad a ffurf y stori fer.
“Mae’r straeon sydd ar restr fer 2026 yn cludo darllenwyr ar draws gwahanol rannau o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys yr Eidal a’r Unol Daleithiau. Dyma straeon cymhellol, tyner sy’n canolbwyntio ar heriau amgylcheddol a’r byd naturiol gydag elfennau gwerin cryf; perthnasoedd cymhleth rhwng rhieni a phlant; hunan-adnabyddiaeth ac obsesiwn; a thirweddau gwledig yn erbyn tirweddau trefol. Mae’n fraint medru cynnwys gwaith yr ysgrifenwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn antholeg arbennig sy’n benodol ar gyfer y Gystadleuaeth hon – llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.” Elaine Canning (Golygydd)
Awduron yn yr antholeg hon: Dean Atkins, Hannah Dafforn, Lucie Donahue, Ben Fergusson, Sybilla Harvey, William Hutton, Issariya Morgan, Michelle Penny, Diana Powell, Satterday Shaw, Beth Webster, a Rhys Owain Williams.
Digwyddiad gan y Sefydliad Diwylliannol mewn partneriaeth â Rhys Davies Trust, Parthian Books a Waterstones.