Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Bob Dydd

Mae’r cyfle hwn yn croesawu ceisiadau gan feirdd yng Nghymru sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i fynychu cwrs rhad ac am ddim i fireinio eu crefft. Nod y preswyliad yw gwella eich sgiliau wrth ddatblygu cerddi a chasgliadau sy’n canolbwyntio ar adegau da a drwg bywyd bob dydd. Y tiwtoriaid yw Meleri Davies a Rhian Elizabeth.

Dyddiadau Allweddol

Dyddiadau’r Cwrs: Dydd Llun 23 – Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026.

Dyddiad Cau: 5.00pm, Dydd Mercher 30 Medi 2026.

Gallwch ddarganfod mwy am y cwrs isod, gan gynnwys pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais. Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras a fformat dyslecsia gyfeillgar ar y dudalen Lawrlwytho.

Caiff Barddoniaeth Bob Dydd ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.