Dewislen
English
Cysylltwch

Rhaglen Ddigidol Am Ddim i Ddatblygu Awduron Cymru

Cyhoeddwyd Maw 15 Medi 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Ddigidol Am Ddim i Ddatblygu Awduron Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o lansio rhaglen newydd o sgyrsiau rhithiol yn rhad ac am ddim, i ysbrydoli a dyfnhau gwybodaeth awduron am y maes llenyddol a chyhoeddi yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfres o weminarau, a gwahoddir cynulleidfaoedd i gymryd rhan yn y sgyrsiau trwy gyflwyno cwestiynau i baneli o arbenigwyr. Mae hanner y gyfres bellach wedi’i chyhoeddi, gyda digwyddiadau pellach i’w datgelu dros y misoedd nesaf.

Mae’r gweminarau ar gael i bawb, a byddent yn dod â golygyddion, cyhoeddwyr, awduron llwyddiannus a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws y diwydiannau llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt ynghyd. Bydd y sesiynau’n cynnig cyngor a mewnwelediadau ymarferol i awduron ar wahanol gamau o’u gyrfaoedd, gyda ffocws penodol ar awduron sy’n dod i’r amlwg ac awduron yng nghanol eu gyrfa.

Mae’r rhaglen yn nodi’r ail gyfres o weminarau gan Llenyddiaeth Cymru. Yn dilyn llwyddiant rhaglen y llynedd, mae’r sefydliad yn adeiladu ar adborth y gynulleidfa i gyflwyno cyfres o sesiynau esblygiedig, gan roi cyfleoedd pellach i awduron ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth.

Bydd y digwyddiadau hefyd yn cyflwyno cynulleidfaoedd i rai o brosiectau a rhaglenni blaenllaw Llenyddiaeth Cymru, gan gynnig cipolwg ar y gefnogaeth sydd ar gael i awduron a sut y gall y sefydliad eu tywys ar hyd eu teithiau llenyddol.

Gyda chymysgedd o gyngor ymarferol, arbenigedd yn y diwydiant a chyfleoedd i ymgysylltu’n uniongyrchol â ffigurau blaenllaw yn y byd llenyddol, nod y gyfres yw rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen ar awduron i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.

Porwch drwy’r digwyddiadau ac archebwch eich lle heddiw!