
Cyfarfod y Cyhoeddwyr: Sesiwn Diwydiant Rhithiol
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig trafodaeth fywiog wedi’i siapio gan gwestiynau a gyflwynir gan y gynulleidfa ymlaen llaw, ynghyd â chyngor ymarferol. Drwy ganolbwyntio ar y materion pwysicaf i awduron, bydd y weminar yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru gan ganiatáu i gyhoeddwyr fynd i’r afael â chwestiynau cyffredin mewn modd ystyrlon a chynhwysfawr a chyfeirio awduron at gyfleoedd a chefnogaeth bellach.
Mae’r sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniadau byr gan y gweisg ac yna sgwrs wedi’i hwyluso yn seiliedig ar y cwestiynau mwyaf cyffredin a gyflwynir gan y gynulleidfa ymlaen llaw. Bydd rhan olaf y sesiwn yn canolbwyntio ar gwestiynau gan y gynulleidfa byw, gyda phob cyhoeddwr yn rhannu un darn allweddol o gyngor a cham nesaf i awduron.
Siaradwyr: Detholiad o weisg Cymru