Dewislen
English
Cysylltwch

Tŷ Newydd yn Derbyn Grant Cyfalaf ar gyfer Gwaith Hanfodol

Cyhoeddwyd Iau 17 Medi 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd yn Derbyn Grant Cyfalaf ar gyfer Gwaith Hanfodol
Llun: Richard Outram
Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod Llenyddiaeth Cymru wedi derbyn grant o £209,954 o Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf y Celfyddydau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, tuag at waith hanfodol yn Nhŷ Newydd, ein pencadlys a’n Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol, sy’n adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II*.

Prif elfen y prosiect yw adfer nenfwd y llyfrgell, a ddyluniwyd gan y pensaer uchel ei barch, Clough Williams-Ellis, fel rhan o’r gwaith sylweddol a wnaeth yn Nhŷ Newydd i David Lloyd-George yn y 1940au cynnar.

Mae’r adferiad yn dilyn ymchwiliad a gomisiynwyd gennym gan y peirianwyr strwythurol Curtins i’r craciau a oedd wedi ymddangos yn y nenfwd. Fe wnaethant ganfod, fel yr oeddem wedi ofni, fod y nenfwd yn ansefydlog ac mewn perygl o gwympo, ond y newyddion da yw y bydd y prosiect adfer yn mynd i’r afael â’r gwendidau strwythurol tra hefyd yn gwarchod gwaith pensaernïol yr ystafell arbennig hon.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru am y grant hwn. Er bod y swm yn gyfraniad sylweddol tuag at gostau’r prosiect hwn, mae’r gwir gyfanswm yn uwch na’r cymhorthdal a dderbyniwyd, ac mae cynnal a chadw’r tŷ hanesyddol hwn yn llafur cariad drwy gydol y flwyddyn sy’n mynd y tu hwnt i’r gwaith cyfalaf hwn.
Os ydych chi’n gallu cefnogi Tŷ Newydd, ystyriwch ymuno â’n cynllun Ffrindiau, o ddim ond £4 y mis. Byddwn yn cydnabod eich haelioni trwy gynnig blaenoriaeth archebu cyrsiau, cylchlythyr chwarterol, ynghyd â chynigion arbennig, gan gynnwys gostyngiadau gan ein cyfeillion llenyddol, cylchgronnau Folding Rock ac O’r Pedwar Gwynt.

Gallwch ddysgu mwy ac ymuno ar-lein yma, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.