Codi Hwyliau
Bydd Iola Ynyr yn siarad am ei chyfrol ddiweddaraf, Codi Hwyliau, ac yn trafod elfennau o’i llyfr yn cynnwys sut i edrych ar ôl ein llesiant ein hunain a sut mae creadigrwydd yn gallu cyfrannu’n bositif tuag at lesiant unigolion. Enillodd Camu, gan Iola Ynyr, sef cyfres o ysgrifau hunangofiannol sy’n wynebu tristwch a heriau yn onest, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2025. Hoffem gydnabod nawdd Cronfa Ysbrydoli Cymunedau a Llenyddiaeth Cymru i’r digwyddiad hwn.