Gŵyl Gerallt
Gŵyl Gerallt 2026
Tachwedd 7fed a’r 8fed – Tafarn Dug Wellington, Y Bontfaen
Dydd Sadwrn, Tachwedd 7fed
11.00 a.m – Talwrn yr Ifanc rhwng beirdd Ysgol Llangynwyd ac Ysgol Bro Morgannwg (yn Neuadd y Dref, Y Bontfaen).
Wedyn llond diwrnod o gyflwyniadau yn nhafarn Dug Wellington, Y Bontfaen
2.00 p.m – Darlith Goffa Gerallt – ‘Iolo a Griffith John’ gan yr Athro Prys Morgan
3.00 p.m – Tir Iarll a’r Wenhwyseg – Dr. Iwan Wyn Rees gan gynnwys clipiau sain hynod brin.
3.45 p.m – Hanes Ysgol Glyndŵr lle bu Gerallt yn athro gyda chyn-ddisgyblion iddo, Elin Hefin, Siwan Mathews a Sali Wyn
4.25 p.m – Te / Coffi
4.40 p.m – Lansiad Hanes y Gynghanedd gan Alan Llwyd; yr awdur yn cael ei holi gan Tudur Dylan Jones mewn sgwrs a fydd yn arwain tu hwnt i’r gynghanedd
5.25 p.m – Llys Llên – trafod pedair cerdd o waith Gerallt Lloyd Owen
6.10 p.m – toriad am swper; bydd dewis da o fwyd ar gael yn y Dug Wellington
8.00 p.m – Ymryson ac ocsiwn, tri thîm o feirdd yn mynd ben ben â’i gilydd dan afreolaeth y Meuryn, Twm Morys, a’r Islwyn, Gruff Antur. Rhwng y rhialtwch bydd Tudur Dylan Jones yn ocsiyna rhai o drysorau llenyddol y genedl.
Dydd Sul, Tachwedd 8fed
Ymweliad â Bryntirion, Trelales, lle sefydlwyd Ysgol Glyndŵr, lle bu Gerallt yn athro a thaith o gylch yr ardal.
Tocynnau – £20 am benwythnos cyfan o ddigwyddiadau.
Ar gael trwy law Mari George yn lleol (07837 725889 / mari_mexico2003@yahoo.co.uk) a thrwy gysylltu ag aled@barddas.cymru
neu
https://www.eventbrite.com/e/gwyl-gerallt-tickets-2000154981392?aff=oddtdtcreator