Dewislen
Eng
Cysylltwch

Tanio: Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Tanio?

Cwrs preswyl newydd gan Llenyddiaeth Cymru yw Tanio ar gyfer awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ac sydd wedi’u tangynrychioli ym myd llenyddiaeth a chyhoeddi Cymru. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau oedolion mewn ysgrifennu rhyddiaith ar gyfer plant 8-12 oed, gan gynnig cymorth creadigol, cyfleoedd proffesiynol a chysylltiadau â’r diwydiant cyhoeddi.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Mae Tanio yn agored i unigolion:

  • Sy’n 18 oed neu’n hŷn.
  • Sy’n siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
  • Sydd wedi’u tangynrychioli ym myd llenyddiaeth a chyhoeddi Cymru.
  • Sydd â diddordeb mewn ysgrifennu rhyddiaith ar gyfer plant 8-12 oed.
Beth ydych chi'n ei olygu wrth "awduron sydd wedi'u tangynrychioli"?

Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau a chymunedau yn wynebu mwy o rwystrau nag eraill wrth geisio datblygu gyrfa ysgrifennu neu gyhoeddi eu gwaith.

Mae’r ffurflen gais yn cynnwys categorïau megis:

  • Pobl fyddar a/neu drwm eu clyw
  • Pobl o gefndir incwm isel
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Pobl LHDTC+
  • Pobl niwroamrywiol
  • Pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig
  • Pobl sy’n byw ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os ydych yn teimlo bod agwedd arall ar eich hunaniaeth, cefndir neu brofiad byw wedi’i thangynrychioli yn y sector llenyddol yng Nghymru, mae’r ffurflen gais wedi ei llunio fel bod modd i chi egluro hyn yn eich geiriau eich hunan.

Oes angen i mi fod wedi cyhoeddi gwaith yn barod?

Nac oes.

Nid oes disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cyhoeddi llyfr neu waith arall yn flaenorol. Rydym yn chwilio am botensial, ymrwymiad a llais creadigol cryf. Os ydych wedi cyhoeddi gwaith, gallwch gynnwys y wybodaeth hon yn eich cais, ond nid yw’n ofyniad.

Oes gen i ormod o brofiad i wneud cais?

Mae Tanio yn agored i awduron gyda lefelau profiad amrywiol.

Os ydych yn awdur mwy profiadol ond yn dymuno newid trywydd creadigol a dechrau ysgrifennu ar gyfer plant, neu’n gallu egluro sut byddai’r cyfle hwn yn rhoi hwb i’ch gyrfa mae yna groeso i chi ymgeisio.

Pa fath o waith ysgrifennu sy'n gymwys?

Rydym yn chwilio am samplau o ryddiaith sy’n dangos eich llais creadigol a’ch potensial fel awdur.

Gall hyn gynnwys:

  • Nofel
  • Straeon byrion
  • Gwaith ffeithiol greadigol

Nid yw’r cyfle hwn yn addas ar gyfer:

  • Barddoniaeth
  • Sgriptiau
  • Perfformiadau llafar neu rap

Os ydych yn ansicr ynghylch cymhwysedd eich sampl, cysylltwch â ni cyn gwneud cais

Beth sydd angen i mi ei gyflwyno?

Bydd angen i chi gyflwyno:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau.
  • Sampl o hyd at 1,000 o eiriau o waith creadigol (rhyddiaith)

Dylai’r sampl fod yn brosiect yr hoffech ei ddatblygu yn ystod y cwrs ac ni ddylai’r gwaith fod wedi’i gyhoeddi ar adeg ymgeisio.

Oes modd imi gyflwyno gwaith sydd wedi'i gyfieithu?

Oes. Os yw eich sampl yn gyfieithiad o iaith arall, nodwch hyn yn glir ar y ddogfen rydych yn ei chyflwyno.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y cwrs preswyl?

Yn ystod yr wythnos yn Nhŷ Newydd, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn:

  • Gweithdai ysgrifennu creadigol
  • Sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid
  • Amser ysgrifennu annibynnol mewn gofod heddychlon
  • Sgyrsiau gyda chyhoeddwyr ac arbenigwyr o’r diwydiant
  • Trafodaethau am lythrennedd a’r cwricwlwm
  • Sesiynau yn ymwneud â gweithio mewn ysgolion
  • Gwybodaeth am y broses o gydweithio gyda darlunwyr
Yw'r cwrs am ddim?

Ydi. Nid oes unrhyw gost i gymryd rhan yn Tanio, ac eithrio eich costau teithio (gweler isod).

Bydd llety a’ch prydau yn cael eu darparu yn ystod yr wythnos yn Nhŷ Newydd.

Oes cymorth gyda chostau teithio?

Oes.

Rydym am sicrhau nad yw costau teithio yn rhwystr i gymryd rhan. Bydd cymorth ariannol ar gael i gyfranogwyr sydd angen help gyda chostau teithio i ac o Dŷ Newydd.

Sut bydd ceisiadau'n cael eu hasesu?

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail:

  • Cryfder y sampl ysgrifennu
  • Potensial creadigol
  • Sut y bydd yr ymgeisydd yn elwa o’r cyfle

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan staff Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth a mewnbwn gan arbenigwyr perthnasol o’r sector llyfrau.

A fyddaf yn derbyn adborth os na fydd fy nghais yn llwyddiannus?

Byddwn yn ceisio darparu adborth cryno i ymgeiswyr aflwyddiannus. Fodd bynnag, oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, efallai na fydd modd cynnig adborth manwl.

Oes hawl gen i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) wrth wneud cais?

Gall offer AI fod yn ddefnyddiol fel cymorth hygyrchedd neu olygu ysgafn wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Fodd bynnag:

  • Ni ddylid defnyddio AI i greu eich ymatebion nac i gamliwio eich profiadau.
  • Ni ddylid defnyddio AI i gynhyrchu eich gwaith creadigol.
  • Ni ddylid defnyddio AI i wneud golygiadau sylweddol i’ch sampl ysgrifennu.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gadarnhau mai eu gwaith eu hunain yw’r gwaith creadigol a gyflwynir.

Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd. A allaf gael cymorth i wneud cais?

Gallwch.

Os oes gennych anabledd, salwch neu ofynion mynediad a allai ei gwneud hi’n anodd i chi gwblhau’r broses ymgeisio, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru yn hapus i drafod sut y gallwn eich cefnogi.

Sut mae gwneud cais?
  1. Ffurflen gais wedi’i chwblhau 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra.

Gofynnir i chi ateb tri chwestiwn sy’n canolbwyntio ar:

  • Eich profiad ysgrifennu, yn cynnwys enwau unrhyw gyhoeddiadau a rhaglenni datblygu awduron neu gyrsiau rydych wedi eu mynychu.
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu, a sut rydych yn gobeithio byddai’r cwrs yn eich cefnogi er mwyn gwireddu eich uchelgeisiau, a sut byddai eich llais yn cyfrannu at y sîn lenyddol yng Nghymru
  • Pam nawr? Sut byddai cymryd rhan yn Tanio yn eich cefnogi ar yr adeg hon yn eich gyrfa? 

Gallwch gyflwyno eich cais ar-lein trwy’r porth ar-lein. Byddwch yn gallu cadw a golygu eich ymatebion ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ymgeisio. Ar ôl I ni dderbyn eich cais trwy’r porth, bydd copi llawn o’ch cais yn cael ei anfon atoch ar gyfer eich cofnodion.

I’ch helpu i baratoi’ch cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i’w darllen mewn fformatau Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na drwy’r porth ar-lein, anfonwch eich ffurflen at post@llenyddiaethcymru.org ynghyd ag enghraifft o’ch gwaith creadigol.

2. Sampl o’ch gwaith creadigol sydd heb ei gyhoeddi.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi uwchlwytho un o’r opsiynau canlynol:

  • Sampl o lawysgrif ffeithiol greadigol yr hoffech ei datblygu yn ystod y cwrs (uchafswm o 1,000 o eiriau) NEU
  • Sampl o lawysgrif ffuglen yr hoffech ei datblygu yn ystod y cwrs (uchafswm o 1,000 o eiriau)
Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Byddwch yn derbyn cadarnhad ein bod wedi derbyn eich cais o fewn 3-5 diwrnod gwaith i’w gyflwyno. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad, gwiriwch eich ffolder sbam/jync neu cysylltwch â ni.

Gallwch ddisgwyl diweddariad ynglŷn â statws cais ynghanol mis Ionawr 2027.

Oes gennych gwestiwn arall?

Os na allwch ddod o hyd i’r ateb rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org a bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.

Nôl i Tanio: Sut i ‘sgwennu ar gyfer pobl ifanc