Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi Tanio, cwrs preswyl newydd rhad ac am ddim, drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer awduron sydd wedi’u tangynrychioli ym myd llenyddiaeth Gymraeg. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu ffuglen i blant 8-12 oed a chymryd y cam nesaf ar eu taith greadigol.
Rydym yn chwilio am awduron sy’n angerddol dros adrodd straeon i ddarllenwyr ifanc ac sy’n llawn cyffro am eu syniadau a’r cyfle i’w datblygu. Mae’r cyfle hwn yn agored i ystod o lefelau profiad pan mae’n dod i ysgrifennu. P’un a’i ydych newydd ddechrau rhoi pensil ar bapur neu eisoes wedi cyhoeddi gwaith, y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu dangos sut y byddai’r cwrs yn rhoi hwb amserol i’ch datblygiad fel awdur.
Cynhelir y cwrs rhwng 1-5 Mawrth 2027 yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o hyd at 14 o awduron, gan gynnig:
- Cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o dan arweiniad dau diwtor blaenllaw.
- Cyfle i ddatblygu eich crefft ysgrifennu, dysgu mwy am y diwydiant cyhoeddi, ymgyfarwyddo â lefelau llythrennedd darllenwyr ifanc ac agweddau perthnasol o’r cwricwlwm, a meithrin sgiliau ymarferol ar gyfer cynllunio a chynnal gweithdai creadigol mewn ysgolion.
- Mewnwelediad i ffyrdd o adeiladu gyrfa broffesiynol a chynaliadwy fel awdur llawrydd.
- Sesiynau adborth digidol gyda’r tiwtoriaid yn dilyn y cwrs preswyl.
- Cyfleoedd i gysylltu’n uniongyrchol â gweisg yng Nghymru sy’n cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant 8-12 oed.
- Cyfleoedd i gwrdd ag asiantau llenyddol sy’n arbenigo mewn llyfrau plant.
- Ymrwymiad gan ddetholiad o weisg yng Nghymru i ddarllen eich gwaith yn dilyn y cwrs a’i ystyried ar gyfer eu rhestrau cyhoeddi.
- Cyfle i fod yn rhan o garfan gefnogol o gyd-awduron sy’n rhannu profiadau, syniadau ac uchelgeisiau tebyg.
- Mynediad at gynllun ôl-ofal fydd yn cynnwys cyswllt parhaus â thîm creadigol Llenyddiaeth Cymru a mynediad at gyfleoedd datblygu pellach, gan gynnwys prisiau gostyngedig ar rai cyrsiau Tŷ Newydd o bryd i’w gilydd.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2026. Ymgeisiwch nawr!