Dewislen
Eng
Cysylltwch

Agor y Drws i 2027: Mae rhywbeth i ti yn rhaglen newydd Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Llu 16 Tach 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Agor y Drws i 2027: Mae rhywbeth i ti yn rhaglen newydd Tŷ Newydd
Mae rhywbeth arbennig yn curo ar ddrws gwyrddlas Tŷ Newydd yn 2027.

Ymunwch â ni am flwyddyn o greadigrwydd, archwilio a chymuned gyda rhaglen sy’n dod â rhai o leisiau mwyaf cyffrous llenyddiaeth gyfoes Cymru a thu hwnt i Lanystumdwy. P’un a ydych yn cychwyn ar eich taith ysgrifennu, yn gweithio ar brosiect newydd, neu’n chwilio am ysgogiad creadigol newydd, mae rhywbeth yn rhaglen eleni i chi.

Yn ogystal ag wythnosau preswyl gyda rhai o enwau mwyaf uchel eu parch y byd llenyddol, rydym yn falch o ehangu ein darpariaeth Gymraeg gyda chyfres newydd o gyrsiau undydd sy’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, cwrdd ag awduron eraill, a threulio diwrnod creadigol yn Nhŷ Newydd. Eleni, gallwch ymuno â Megan Angharad Hunter i archwilio’r grefft o gyfieithu creadigol, darganfod eich llais barddol gyda Carwyn Eckley, ysgrifennu i blant gyda Sioned Erin Hughes, troi teithiau’n straeon gyda Grug Muse, chwarae gyda hiwmor dan arweiniad Mel Owen, neu archwilio byd perfformio barddoniaeth gyda Megan Lloyd.

Yn ôl yr arfer, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfres eithriadol o gyrsiau preswyl dan arweiniad rhai o enwau mwyaf disglair llenyddiaeth gyfoes. Bydd cwrs penwythnos ffuglen yng ngofal dau sydd wedi ennill sawl gwobr am eu dawn gyda geiriau, Gareth Evans-Jones a Manon Steffan Ros. Bydd ein cwrs cynganeddu wythnos o hyd yn dychwelyd unwaith eto ar gyfer dechreuwyr llwyr a’r rheiny â pheth profiad. Y tro hwn, yr amryddawn Jo Heyde a Rhys Iorweth fydd yn eich harwain trwy gywreinrwydd y grefft hynafol. Ymhlith y tiwtoriaid eraill sy’n ymweld â ni flwyddyn nesaf mae Mark Haddon, Sarah Moss, Irenosen Okojie, Hollie McNish, Joe Dunthorne, Gwyneth Lewis, Jon Gower, Owen Sheers a llawer mwy.

Mae’r rhaglen yn cyflwyno rhai genres am y tro cyntaf hefyd, gan gynnwys ffuglen rhamantasi, ysgrifennu arswyd a ffuglen hunangofiannol, ochr yn ochr â chyrsiau poblogaidd yn canolbwyntio ar farddoniaeth, ffuglen fer, ffuglen drosedd, ysgrifennu natur, gwaith ffeithiol greadigol ymhlith eraill.

Byddwn hefyd yn croesawu ystod drawiadol o ddarllenwyr gwadd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Carys Davies, Leone Ross, Sarah Perry, Diana Evans, Preti Taneja, Catriona Ward a nifer o leisiau pwysig eraill sy’n helpu i lunio y byd llenyddol ryngwladol gyfoes.

Yn Nhŷ Newydd, credwn fod ysgrifennu o safon yn ffynnu drwy sgwrsio, ffurfio cymuned a chael mynediad i ofod ac amser. Mae’r rhaglen eleni hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i lesiant ac i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, gan greu cyfleoedd i ysgrifennu am ffyrdd i feithrin cysylltiad dyfnach â’n gilydd, â natur, ac â’r byd o’n cwmpas.

P’un a ydych yn ysgrifennu yn Gymraeg neu Saesneg, yn gweithio ar eich cerddi cyntaf neu ar eich nofel nesaf, mae croeso i chi yma.

Mae’r drws yn led agored.

Mae opsiynau talu amrywiol i’r rheiny fyddai’n dymuno gwasgaru ffi cwrs. Gallwch ddarganfod rhagor ar wefan Tŷ Newydd. Mae ein cynllun ysgoloriaethau wedi ei addasu ar gyfer 2027, gan gynnig 15 lle wedi’u hariannu’n llawn ar draws y rhaglen i’r rheiny sy’n gymwys, gan helpu mwy o awduron i gael mynediad at y cyfleoedd, y gefnogaeth a’r gymuned greadigol sydd wrth galon Tŷ Newydd. Bydd ceisiadau am ysgoloriaethau yn agor ar 30 Tachwedd 2026 ac yn cau ar 4 Ionawr 2027.

I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lle, ewch i www.tynewydd.wales. Edrychwn ymlaen at eich croesawu drwy ddrws gwyrddlas Tŷ Newydd yn fuan iawn.