Dewislen
English
Cysylltwch

Uwch-arolygwr Adeiladu yw Alexander Wharton o Dorfaen, pan nad yw’n brysur yn ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ei waith i’w weld yn aml yn The Caterpillar, Wales Haiku Journal, Hedgerow ac I am not a silent poet. Yn ôl y panel mae Alex yn awdur plant hyderus â syniadau creadigol gref, a’i waith yn ‘ddoniol, yn fympwyol ac yn ffraeth’. Mae’n arwain nosweithiau’r Cardiff Arts free festival yn gysonyn aml yn perffomrio ei farddoniaeth mewn ysgolion, ac yn hwyluso gweithdai ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Mae wedi cwblhau sawl cwrs Ysgrifennu Creadigol fer arlein gyda’r Brifysgol Agored a Future Learn, ac mae’n gobeithio astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn y dyfodol agos.    

Llwyddodd Alex Wharton, Rising Star 2020, i gael cytundeb cyhoeddi gyda Firefly Press ar gyfer ei gasgliad barddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, a gafodd ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2021.

“Dwi’n hynod ddiolchgar o dderbyn y wobr yma, dwi’n teimlo ei fod yn gydnabyddiaeth i’m hangerdd a’m hymroddiad o ysgrifennu barddoniaeth i blant. Mae eisoes wedi agor drysau i gyfle arbennig i mi gan y bydd y bobl hyfryd yn Firefly yn cyhoeddi fy nghasgliad cyntaf Daydreams and Jellybeans y flwyddyn nesaf. Dylai cerddi gael eu rhannu, a dylai eu geiriau ganfod y rheiny sydd eu hangen – mae’r wobr wedi rhoi llwyfan ehangach i fy ngeiriau i. Mae’n gyffrous a dwi’n hynod o ddiolchgar.”

Alex Wharton, enillydd Gwobr Rising Stars Cymru 2020