Dewislen
English
Cysylltwch

Amdanom ni

Yn Llenyddiaeth Cymru, ein nod yw cefnogi awduron, waeth ble maen nhw ar eu taith. O blant yn darganfod cariad at eiriau, i leisiau newydd yn canfod eu traed, i unigolion sy’n ‘sgwennu’n rheolaidd ond yn chwilio am y cam nesaf, neu awduron sefydledig sy’n rhoi Cymru ar y map. Yn syml, y rheswm mae ein helusen (rhif 1146560) yn bodoli yw er mwyn eu helpu i dyfu a ffynnu.

Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig cyrsiau ysgrifennu creadigol, ysgoloriaethau, mentora a hyfforddiant. Rydym yn rhoi cyfleoedd i blant gael eu hysbrydoli gan awduron o fewn a thu hwnt i’r dosbarth, ac yn eu helpu i gynnal gweithdai a digwyddiadau yn y gymuned. Rydym hefyd yn dathlu’r gorau ym maes ysgrifennu Cymru gyda gwobrau fel Llyfr y Flwyddyn a chynlluniau megis Bardd Cenedlaethol Cymru.

Ond dyw’r gwaith yma ddim am y ‘sgwennu yn unig – mae’n ymwneud â newid. Rydym am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y sector, gan ymdrechu i sicrhau bod sîn lenyddol Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth y genedl. Credwn hefyd fod gan eiriau y grym i drawsnewid bywydau, cefnogi llesiant, ac ysbrydoli gweithredu ar faterion mawr fel yr argyfwng hinsawdd.

Mae ein gwaith yn digwydd mewn sawl ffordd: rydym yn rhedeg prosiectau ein hunain, yn partneru â sefydliadau eraill, neu’n ariannu eraill i ddod â syniadau’n fyw. Rydym yn cael ein cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a llu o ymddiriedolaethau, sefydliadau, cwmnïau ac unigolion gwych. Eu haelioni nhw sy’n gwneud ein rhaglenni’n bosibl.

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg, Saesneg, ac yn ddwyieithog ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd.